Cymru 'ar flaen y gad' gyda meddygaeth arloesol

Disgrifiad o'r llun, Mae therapi pelydr proton egni uchel yn targedu'r canser, gan olygu llai o risg i rannau eraill o'r corff
  • Awdur, Owain Clarke
  • Swydd, Gohebydd Iechyd 大象传媒 Cymru

Gall Cymru fod ar flaen y gad wrth ddatblygu meddygaeth fanwl a thriniaethau arloesol, yn 么l y Gweinidog Iechyd.

Ddydd Mawrth bydd Vaughan Gething yn agor yn swyddogol y ganolfan gyntaf yn y DU ar gyfer trin canser gyda therapi pelydr proton egni uchel.

Clinig preifat yw Canolfan Ganser Rutherford yng Nghasnewydd, ond fe gafodd claf cyntaf o'r Gwasanaeth Iechyd driniaeth yno ym mis Rhagfyr.

Amcan meddygaeth fanwl yw trin cleifion fel unigolion ar sail geneteg a bio-gemeg y corff.

Mae wedi ei seilio ar yr egwyddor bod pawb yn wahanol.

Teilwra triniaethau

Mae datblygiadau gwyddonol a thechnolegol yn golygu bod modd gwneud mwy gyda'r peiriannau diweddaraf a dadansoddi geneteg er mwyn darganfod beth sy'n bod ar rywun a darparu triniaethau wedi eu teilwra'n arbennig ar eu cyfer.

Mae therapi pelydr proton yn fath arbennig o radiotherapi sy'n targedu canser yn fanwl iawn.

Mae protonau'n cael saethu at diwmor ar gyflymder uchel - cymaint 芒 100,000 milltir yr eiliad - ond maent yn stopio pan maen nhw'n cyrraedd tiwmor ac felly'n llai niweidiol i weddill y corff.

Claf pelydr proton cyntaf y GIG

Disgrifiad o'r llun, Ryan Scott oedd y claf cyntaf yng Nghymru i gael therapi pelydr proton ar y Gwasanaeth Iechyd

Blwyddyn yn 么l aeth Ryan Scott, 23 o Lechryd yng Ngheredigion, i'r uned gofal brys yn yr ysbyty yn Hwlffordd gyda phoenau yn ei ben a'i wddf.

Y gred gyntaf oedd bod ganddo firws, ond tra roedd yno fe ddechreuodd deimlo'n benysgafn, ac fe wnaeth sgan ddangos fod ganddo diwmor ar yr ymennydd, ger y nerf optegol.

"Ro'n i'n gwybod bod rhywbeth o'i le ond roedd hi'n dipyn o sioc clywed mai tiwmor ar yr ymennydd oedd e," meddai.

"Fe ges i dair triniaeth fawr - ac fe getho' nhw y rhan fwyaf ohono fe mas ond roedd darn bach ar 么l."

Disgrifiad o'r llun, Ryan Scott yn derbyn ei driniaeth

Yr awgrym cyntaf oedd iddo fynd i'r Unol Daleithiau ar gyfer therapi pelydr proton, ond fe ddywedodd ei arbenigwr fod cyfle am driniaeth yn nes at adref yng Nghanolfan Rutherford.

"Wnes i ddim teimlo unrhyw beth unwaith ro'n i mewn," meddai Mr Scott.

"Ro'n i'n gorwedd ar y gwely ac fe gymerodd hi'n hirach i wneud yn si诺r fy mod i yn y safle cywir - fi'n credu taw pum munud oedd y driniaeth ei hun."

Mae Mr Scott yn dweud ei fod yn "dod yn ei flaen" ac yn aros am ganlyniadau'r sgan terfynol.

Sut all meddygaeth fanwl helpu?

Mae'r Athro Ian Weeks, Deon Arloesi Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dweud ei bod hi eisoes yn bosib gwneud diagnosis yn gynharach ac yn fwy cywir gyda meddygaeth fanwl.

"Mae meddygaeth cywirdeb manwl yn gynyddol bwysig wrth geisio gwneud diagnosis mwy cywir - ar lefel folecwlar, beth yn union yw'r canser," meddai.

Felly yn fwy na s么n am si芒p a maint y tiwmor, mae modd trafod beth mae'n ei wneud a sut mae'n ymateb i driniaeth.

"Mae 'na lawer o brosesau bio-gemegol yn ei achosi a heb ddeall a chael diagnosis o'r rheiny allwn ni ddim ymyrryd yn y ffordd fwyaf addas," meddai'r Athro Weeks.

"Wrth edrych yn fwy manwl ar fio-gemeg y claf gallwn ddarogan pa gyffuriau a therap茂au fydd y canser yn ymateb orau iddyn nhw, a hefyd y triniaethau hynny na fydd yn gweithio cystal i'r claf yna."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Vaughan Gething fod "gweledigaeth gredadwy" yng Nghymru ar gyfer therap茂au arbenigol

Gall deallusrwydd artiffisial (AI) a pheiriannau s helpu i ddadansoddi data o ddelweddau gan roi mwy o wybodaeth i ddoctoriaid yn gynt.

Mae dadansoddi ein geneteg yn fwy manwl hefyd yn fodd o ddarogan y risg o ddatblygu rhai afiechydon - nid dim ond canser ond hefyd schizophrenia, clefyd Alzheimer a chyflyrau niwrolegol eraill.

'Ar flaen y gad'

Mae Llywodraeth Cymru'n darparu 拢2.3m yn ychwanegol eleni ar gyfer profion geneteg newydd a 拢2m tuag at gynlluniau am wasanaethau diagnostig a meddygaeth arbenigol.

Dywedodd Mr Gething fod "gweledigaeth gredadwy" ar gyfer therap茂au arbenigol a thechnoleg diagnosis mwy cywir.

"Yng Nghymru, rydym eisoes yn gwneud cynnydd ym maes meddygaeth fanwl ac rwy'n hyderus y gallwn fod ar flaen y gad yn y ras i wireddu ei botensial," meddai.

Yn y tymor hir gallai hefyd arbed arian i'r Gwasanaeth Iechyd.

Ar hyn o bryd mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ar ba gyffuriau a thriniaeth sy'n fforddiadwy ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol neu gr诺p penodol o gleifion, ond yn y dyfodol efallai y byddwn yn edrych ar beth sy'n gweithio orau i bob unigolyn.