Golwg newydd ar y Cymoedd
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa o ffotograffau ym Mryste yn ceisio portreadu'r Cymoedd mewn golau newydd.
It's Called Ffasiwn yw ffrwyth llafur pedair blynedd o waith rhwng y ffotograffydd o Ffrainc, Cl茅mentine Schneidermann, a'r cyfarwyddwr creadigol Charlotte Jones - sydd ei hun yn ferch leol - gyda grwpiau ieuenctid yn ardal Merthyr Tudful.
Cafodd y plant gymryd rhan mewn sesiynau tynnu lluniau ffasiwn mewn gwisgoedd gwych a gwallgo', gyda golygfeydd cyfarwydd y Cymoedd yn gefndir i'r cyfan.
Yn fwy na dim ond arddangosfa luniau, mae crewyr y prosiect yn gobeithio fod hyn yn rhoi'r ardal mewn darlun gwahanol i'r arfer, a'i fod wedi annog y plant i gymryd diddordeb yn y celfyddydau creadigol.
Charlotte Jones: Mae sut wnes i dyfu lan a fy ieuenctid bob amser yn ddylanwad mawr ar fy ngwaith. Mae 'na deimlad o gymuned yn y Cymoedd ac mae hynny wedi aros 'da fi, ac mae fy ngwaith yn aml yn cynnwys teulu a ffrindiau a phobl o'r ardal, a'r llefydd o'n i'n eu 'nabod o fy mhlentyndod fel cefndir.
Cl茅mentine Schneidermann: Mae gen i ddiddordeb mawr mewn tynnu lluniau o bobl. Dwi'n hoffi swrrealaeth ond hefyd realaeth, ac fel mae hyn yn gwrthgyferbynnu. Roedd gen i ddiddordeb yn barod mewn sut i gael pobl i sefyll allan o'r dyrfa a dwi'n meddwl fod cydweithio gyda Charlotte ar y prosiect yma wedi gwneud hyn yn bosib.
CS: Roedd ymateb y gymuned yn dda iawn, gyda llawer o gefnogaeth gan y teuluoedd, gweithwyr ieuenctid a'r plant o'r dechrau. Y peth gorau oedd agoriad yr arddangosfa. Daeth pawb - yr holl blant a'u rhieni.
Roedd hi'n anhygoel i weld eu hymateb i'r gwaith ac wrth iddyn nhw weld lluniau enfawr o'u hunain mewn fframiau ar y wal. Roedd hi'n eithaf profiad iddyn nhw!
CJ: Byddwn i wedi gwerthfawrogi rhywbeth fel hyn yr oed yna. Yn y ddinas, mae gen ti fynediad hawdd iawn i bethau fel orielau celf - does gan y plant yma ddim. Dyw e ddim ar gael iddyn nhw mor hawdd. Sut maen nhw i fod i wybod eu bod yn bodoli? Mae cael mynediad at y celfyddydau yn anodd i bobl yn y dosbarth gweithiol.
CJ: 'Nes i brofi'r un fagwraeth 芒'r plant yma. Doedd mynd i'r brifysgol ddim yn rhywbeth roedd pawb yn ei wneud. Pan es i i'r brifysgol ac wedyn i weithio i Lundain, nes i sylwi fod yna ddim llawer o bobl fel fi, o gefndir tebyg, ym maes y celfyddydau.
Ro'n i eisiau dangos llwybr posib i'r plant - eu bod yn gallu mynd ar y trywydd yna - a rhoi'r hyder iddyn nhw wneud hynny. Roedd y prosiect yma yn dangos y posibiliadau iddyn nhw.
CS: Wrth gwrs, rwyt ti eisiau helpu, ond dwi'n bod yn realistig - dwyt ti methu newid bywyd rhywun gyda ffotograffiaeth. Ar yr un pryd, yn ddiweddar, mae 'na fwy o sylw cadarnhaol wedi bod yn y wasg am yr ardal. Fues i'n byw yno am dair blynedd wrth weithio ar y prosiect, a dwi wedi gallu gweld y teimlad yna o falchder.
Dydy'r lluniau yma ddim yn canolbwyntio ar broblemau cymdeithasol - dyna beth sy'n digwydd fel arfer wrth s么n am y Cymoedd. Wrth gwrs, mae'r problemau yna, a dwyt ti ddim eisiau eu hanwybyddu, ond ar yr un pryd, dwi ddim yn meddwl ei fod yn helpu neb i roi ystadegau am y peth o hyd.
Mae pobl yn hapus gyda sut mae'r ardal wedi cael ei bortreadu.
Hefyd o ddiddordeb:
(gwefan Saesneg, allanol)