大象传媒

Galw am ailagor rheilffordd Dyffryn Conwy cyn y 'Steddfod

  • Cyhoeddwyd
lein llanrwst

Mae cwmni Network Rail wedi dweud eu bod nhw'n gobeithio ailagor rhan o'r lein rhwng Dyffryn Conwy a Llanrwst erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.

Achoswyd difrod mawr i'r lein yn ystod llifogydd a ddaeth yn sgil storm Gareth ym Mis Mawrth.

Mae'r rheilffordd ar gau rhwng Blaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno.

Cafodd chwe milltir o'r trac yn ardal Llanrwst ei ddifrodi'n arw, ac mi fydd hi'n costio miliynau o bunnau i adnewyddu'r lein.

'Problemau erchyll'

Dywedodd Alfan Roberts, llefarydd ar ran Network Rail: "Mae'r difrod yn anhygoel felly... mae'r d诺r wedi golchi ffwrdd y cerrig sydd yn dal y trac i fyny ac wedi creu problemau erchyll i ni yma.

"Mae 2,000 tunnell o gerrig newydd ganddo ni er mwyn llenwi'r tyllau sydd wedi eu creu gan y d诺r a dod 芒'r trac yn 么l at safon lle ydan ni'n medru rhedeg tr锚n arno eto."

Mae rheilffordd Dyffryn Conwy yn bwysig o ran pobl leol a thwristiaid a dywedodd y cynghorydd Aaron Wynne, sy'n cynrychioli rhan o Lanrwst ar Gyngor Conwy bod angen edrych ar ffyrdd amgen i warchod y rheilffordd a thai lleol rhag llifogydd yn y tymor hir.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Be 'da ni wedi bod yn gwneud o'r blaen ydi ailadeiladu'r lein yn union fel mae hi wedi cael ei gwneud erioed.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rheilffordd ar hyn o bryd "yn actio fel argae", yn 么l y Cynghorydd Aaron Wynne

"Mae ganddo ni gyfle r诺an i edrych ar ddulliau amgen o adeiladu'r rheilffordd... un ffordd bydda ei rhoi hi ar stilts fel bod y d诺r yn medru llifo o dan y rheilffordd yn rhwydd," meddai Mr Wynne.

"Mae'r rheilffordd ar hyn o bryd yn actio fel argae ac mae'r d诺r ochr y tai i'r rheilffordd yn uwch nag ochor yr afon sydd yn peri gofid i dai a phobl leol Llanrwst."

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Network Rail mai'r flaenoriaeth ydi gwneud gwaith i ailagor y lein, wedyn byddan nhw'n edrych am opsiynau i leihau'r risg o lifogydd.

Bydd Network Rail yn cynnal cyfarfod yn Llanrwst nos Fercher er mwyn i bobl leol gael clywed lle maen nhw arni efo'r gwaith atgyweirio sydd yn sicr o gymryd misoedd lawer i'w gwblhau.