大象传媒

Prifysgol Bangor i dorri cyrsiau Cemeg i arbed arian

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi cadarnhau na fydd yn parhau i gynnig cyrsiau Cemeg fel rhan o ymgais i arbed arian.

Dywedodd y brifysgol y byddai hynny'n cael effaith ar swyddi, ond heb gadarnhau unrhyw niferoedd.

Mae'r cyhoeddiad yn golygu na fydd modd astudio Cemeg drwy gyfrwng y Gymraeg pan ddaw y cwrs ym Mangor i ben.

Mae'r brifysgol yn rhoi'r bai ar bwysau ariannol, mwy o gystadleuaeth o fewn prifysgolion a llai o fyfyrwyr yn astudio'r cwrs.

Ar hyn o bryd dim ond 23 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd ar y cwrs, o'i gymharu 芒 61 yn 2015/16.

Bydd pob myfyriwr sydd wedi dechrau'r cwrs yn cael graddio.

Dywedodd is-ganghellor y brifysgol ei fod yn benderfyniad "anodd iawn" ond y byddai'n hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol "llwyddiannus a chynaliadwy".

Yn 么l Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg y brifysgol, UMCB, Gethin Morgan, mae'r penderfyniad yn codi nifer o gwestiynau cenedlaethol.

"Mae'n drist i weld bod y Brifysgol wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddileu gradd sengl Cemeg. Bydd UMCB yn parhau i gydweithio gyda'r Brifysgol i sicrhau bod y myfyrwyr presennol yn cael y profiad gorau posib," meddai.

"Yn dilyn y cyhoeddiad, mae llawer o gwestiynau cenedlaethol yn codi ynghylch y ddarpariaeth Gymraeg yn y maes.

"Ein nod yn awr yw sicrhau cyn lleied o aflonyddwch i'n myfyrwyr presennol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd dros 100 o staff a myfyrwyr yn protestio yn erbyn y toriadau ym mis Ionawr

Dechreuodd y brifysgol ymgynghori ar y cynllun llynedd, gan ddweud eu bod yn "wynebu sefyllfa ariannol heriol".

Cadarnhaodd y brifysgol hefyd y byddai newidiadau i swyddi ym meysydd cyllid a'r gwasanaethau corfforaethol, a'r ysgolion Addysg a Datblygiad Dynol, Gwyddorau Meddygol, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.

Ym mis Ionawr, dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor bod "lot o bobl sy'n agos i'r mannau uchaf ar gyflogau uchel iawn" gan awgrymu bod modd lleihau'r costau hynny.

Dywedodd Is-ganghellor Dros Dro Prifysgol Bangor, Yr Athro Graham Upton bod rhaid "cyflawni'r gweithredoedd yma r诺an er mwyn ateb yr heriau ariannol hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau y bydd gan y Brifysgol ddyfodol llwyddiannus a chynaliadwy".

"Mi wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i gefnogi'r staff a'r myfyrwyr hynny sy'n cael eu heffeithio a hoffwn ailadrodd y bydd modd i fyfyrwyr presennol gwblhau eu hastudiaethau."