大象传媒

Ymchwilio i g诺yn yn erbyn cyngor am gau Ysgol Bodffordd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol BodfforddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y broses ymgynghorol ynghylch cau Ysgol Bodffordd ei chynnal cyn y canllaw diweddaraf sy'n rhagdybio dros gadw ysgolion gwledig ar agor

Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cadarnhau y bydd ei swyddogion yn cynnal ymchwiliad i'r ffordd y penderfynodd Cyngor M么n i gau Ysgol Gymunedol Bodffordd.

Mae Cymdeithas yr Iaith, llywodraethwyr yr ysgol a nifer o rieni wedi cwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru gan ddadlau bod y cyngor heb ddilyn y canllawiau cywir, gan fethu ag archwilio posibiliadau eraill nac ystyried effaith cau'r ysgol ar y gymuned.

Roedden nhw'n dadlau y dylai'r cyngor fod wedi ystyried canllawiau newydd y llywodraeth sy'n rhagdybio o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor.

Dywed y cyngor eu bod yn ymwybodol o'r pryderon a'r g诺yn, a bydd swyddogion yn cysylltu 芒 Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒'r mater.

Fe benderfynodd y cyngor ym mis Rhagfyr i gau'r ysgol ym Modffordd ynghyd ag Ysgol Corn Hir, Llangefni a chodi ysgol gynradd newydd ar gyfer 360 o ddisgyblion yn Llangefni.

Roedd yna wrthwynebiad mawr ym Modffordd, lle mae dros 80 o blant ar y gofrestr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y cyngor eu bod yn ystyried y g诺yn ar hyn o bryd

Cafodd y broses ymgynghorol ynghylch y newidiadau eu cynnal cyn fersiwn diweddaraf y llywodraeth o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion - sy'n rhagdybio o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor - a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod fersiwn flaenorol y cod hefyd yn cynnwys cymalau oedd yn gorfodi awdurdodau lleol:

  • I ystyried pob opsiwn arall cyn cau ysgol;

  • I fod yn agored i bosibiliadau newydd sy'n codi yn ystod y broses ymgynghorol;

  • I ystyried effaith cau'r ysgol ar y gymuned leol ac ar yr iaith Gymraeg.

Yn 么l yr ymgyrchwyr, mi fethodd y cyngor 芒 dilyn y canllawiau hynny wrth benderfynu tynged Ysgol Bodffordd.

Tanseilio'r strategaeth

Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith: "Os gellir cau ysgol boblogaidd a llawn fel Bodffordd lle mae 89% o'r plant o aelwydydd Cymraeg, go brin fod unrhyw ysgol wledig yn ddiogel a bydd strategaeth Kirsty Williams o blaid ysgolion gwledig yn ddi-ystyr.

"Mae Cyngor Ynys M么n wedi methu yn ei ddyletswyddau o dan y Cod mewn ymdrech i ddenu cyllid ar gyfer ysgolion newydd yn Llangefni.

"Mae mawr angen yr adeiladau newydd yn Llangefni, ond nid yw'n deg, nac yn gyfreithlon, fod cymunedau gwledig o gwmpas y dref i fod i ddioddef o ganlyniad."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Parhau mae'r gwrthwynebiad i'r bwriad i gau Ysgol Bodffordd a'r ganolfan gymunedol ar yr un safle

Yn 么l Cymdeithas, roedd yn rhaid mynd trwy broses gwyno fewnol y cyngor cyn gallu mynd 芒'r mater i'r Gweinidog Addysg, a bod y cyngor wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le ac awgrymu cwyno wrth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dywed yr ymgyrchwyr y "gallai ymchwiliad ganddo fo gymryd naw mis, a byddai fait accompli gan y Cyngor erbyn hynny", a bod Ms Williams "wedi cydsynio, a gofyn i'w swyddogion edrych i mewn i'r c诺yn".

Yn ei llythyr atyn nhw mae hi'n ysgrifennu: "Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ystyried y materion yr ydych yn tynnu sylw atynt, ac a ydynt yn cynrychioli methiant i gydymffurfio 芒'r Cod.

Fel rhan o'r ystyriaethau hynny, bydd fy swyddogion yn ysgrifennu at Gyngor Ynys M么n i roi gwybod bod cwyn wedi dod i law ac i ofyn am unrhyw wybodaeth bellach yr ydym yn ystyried ei bod yn angenrheidiol".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys M么n: "Rydym yn ymwybodol o'r pryderon yma a'r g诺yn sydd wedi ei chyflwyno.

"Mae'n swyddogion ni yn ystyried y g诺yn ar hyn o bryd. Byddent yn cysylltu gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru parthed y mater yma hefyd."