Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Band Pres Llareggub yn New Orleans
Roedd cynrychiolaeth o Gymru mewn g诺yl gerddoriaeth adnabyddus yn New Orleans ar Ddydd Sadwrn, 13 Ebrill.
Roedd Band Pres Llareggub yn perfformio yn y French Quarter Festival yn ardal hanesyddol y ddinas.
Mae penwythnos yr 诺yl bellach yn atyniad enfawr yn New Orleans ac mae wedi ei chynnal yn y ddinas yn flynyddol ers 35 o flynyddoedd.
Mae'r 诺yl yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth jazz, blues, a zydeco - sef math arbennig o gerddoriaeth sy'n gyfuniad blues ac RnB a ddatblygodd yn Louisiana gan y gymuned Creole Ffrengig ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Yn 么l Owain Gruffudd, sylfaenydd Band Pres Llarregub, mae perfformio yn yr 诺yl wedi bod yn uchelgais ers blynyddoedd. Roedd S4C yn dilyn y band ar y daith i Louisiana, ac bydd rhaglen arbennig yn cael ei darlledu ar y sianel nos Iau, 6 Mehefin.
"Mae New Orleans fel pererindod i unrhyw gerddor jazz. Dweud y gwir, mae cerddoriaeth boblogaidd i gyd yn dod o'r lle yma."
Felly beth oedd uchafbwynt y daith?: "Y profiad gorau oedd gweld plant ifanc o ardaloedd difreintiedig yn cymryd rhan yn y par锚d."
Rhannodd Band Pres Llareggub luniau o'u taith gyda Cymru Fyw.
Ychwanegodd Gethin Evans, drymiwr y band: "Mae gan y ddinas gymaint o hanes ac mae gan bron bob adeilad stori chwedlonol. Braint ac anrhydedd oedd cael mynd yno i brofi ac i glywed yr hanes yn fyw.
"Ond mae gennym ni'r Cymry gymaint i'w ddysgu yngl欧n 芒 sut i farchnata ein treftadaeth a'n hanes i'r byd.
"Dwi'n gadael New Orleans gyda pharch mawr at y bobl a'r ddinas, ond hefyd yn gwerthfawrogi gymaint sydd gennym ni fel Cymry Cymraeg i'w rhannu 芒'r byd."
Bydd rhaglen arbennig yn dilyn taith Band Pres Llareggub i New Orleans yn cael ei ddarlledu ar S4C ar nos Iau, 6 Mehefin am 20.00.