大象传媒

Eisteddfod yn chwilio am safle newydd yn Nyffryn Conwy

  • Cyhoeddwyd
eisteddfod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llanrwst, Sir Conwy fydd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019

Mae Llywydd Llys Yr Eisteddfod Genedlaethol, Eifion Lloyd Jones, wedi dweud na fydd yr 糯yl eleni yn cael ei chynnal ar y safle a fwriadwyd yn wreiddiol ond mai'r gobaith dal yw ei chynnal yn Nyffryn Conwy a hynny yn agos i Lanrwst.

Fis diwethaf cafodd y safle gwreiddiol ddifrod o ganlyniad i lifogydd, dolen allanol yn ardal Llanrwst a dywedodd swyddogion y brifwyl y byddai angen newidiadau i'r safle yn sgil pryderon diogelwch ac na fyddai modd yswirio'r Eisteddfod.

Mewn cyfarfod o Lys yr Eisteddfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn cafwyd cadarnhad na fydd yr 诺yl yn cael ei chynnal ar y safle gwreiddiol,

Dywedodd Mr Jones fod y gwaith wedi dechrau o chwilio am safle arall.

"Rydym yn edrych ar safle ar gyrion Llanrwst.

"Nid yn union ar y tir gwreiddiol ond rydym yn dal yn obeithiol i gynnal yn Nyffryn Conwy, ond nid ar yr union safle lle bwriadwyd yn wreiddiol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eifion Lloyd Jones: 'Rydym yn edrych ar safle ar gyrion Llanrwst'

Doedd dim modd rhoi mwy o wybodaeth, meddai, oherwydd bod y trafodaethau dal yn mynd rhagddynt.

Dywedodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod fod ei th卯m yn gweithio mor gyflym 芒 phosibl ar gynlluniau newydd ar gyfer safle'r Brifwyl eleni.

"Mae 'na nifer o drafodaethau a gweithgaredd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf ers i'r Bwrdd gymeradwyo newid cyfeiriad yn achos yr Eisteddfod eleni.

"Rydym wedi bod yn gweithio ar yr opsiwn a ffefrir gennym, sef i gadw'r Brifwyl mor agos 芒 phosib i dref Llanrwst, ac asesu opsiynau wrth gefn hefyd.

"Mae'r gefnogaeth leol wedi bod yn wych, ac rydym yn trafod gyda nifer o wahanol bobl yn ardal Llanrwst ac asiantaethau gyda'r bwriad o sicrhau nad yw costau ychwanegol yn atal ein hymdrechion."

Ond cafwyd cadarnhad hefyd gan Mr Jones y bydd prisiau mynediad yn uwch na'r rhai yn Eisteddfod M么n, 2017.

"Mae'r Llys wedi rhoi caniat芒d i swyddog cyllid i edrych ar y prisiau.

"Yn wreiddiol y bwriad oedd cadw'r prisiau ar yr un lefel ag Eisteddfod M么n ond dan yr amgylchiadau mae wedi dod i'r amlwg bod yn rhaid codi'r prisiau."

Doedd dim Maes caeedig ar gyfer Eisteddfod Caerdydd y llynedd, ac felly dim t芒l mynediad i nifer o'r gweithgareddau.