Nifer bagiau stoma sy'n cael eu rhoi i Gymry wedi treblu

Disgrifiad o'r fideo, Stori Amber a Jamie sy'n byw bywyd gyda bag stoma
  • Awdur, Sian Elin Dafydd
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae nifer y bagiau stoma - sy'n cael eu rhoi i bobl ar 么l cael triniaeth ar eu coluddyn - wedi bron 芒 threblu yng Nghymru dros y 18 mlynedd diwethaf.

Agoriad neu dwll bach ar y bol yw stoma ac mae'r bag drosto yn casglu gwastraff y corff.

Wrth i gyfryngau cymdeithasol gael eu beirniadu am or-bwysleisio delweddau o'r corff perffaith, mae sawl un sy'n gwisgo bagiau wedi bod yn arddangos eu cyrff er mwyn torri tab诺s.

Yn eu plith mae Amber Davies a Jamie Whitmore.

Yn 么l y ddau mae eu presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol wedi rhoi hwb i chwalu delweddau traddodiadol.

Mae'r broses o gael bag yn rhywbeth sy'n gysylltiedig 芒 phobl h欧n, yn 么l Amber.

"Dwi'n credu os oedd gen i rywbeth fel Instagram pan o'n i'n mynd drwy'r driniaeth, bydde rhywbeth fel 'na wedi helpu fi... roedd lot o'r wybodaeth a phopeth ar-lein i gyd yn delio gyda hen bobl, doedd dim lot am bobl ifanc a phobl heini, bydde Instagram a'r gymuned arno wedi helpu lot."

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Amber lawdriniaeth pan oedd yn 17 oed

Ar 么l cael problemau iechyd am flynyddoedd bu'n rhaid i Amber gael llawdriniaeth frys yn 17 oed i dynnu rhan o'i choluddyn a chreu stoma.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei choluddyn ei dynnu i gyd, a'i gadael gyda bag parhaol.

Bellach mae Amber - sy'n 21 ac o Lanfair-ym-Muallt ym Mhowys yn wreiddiol - yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yn astudio dylunio, symudodd Amber i d欧 gydag wyth myfyriwr arall yn eu blwyddyn gyntaf.

"Roedd yn eithaf brawychus i ddechrau, ond rwy'n eithaf agored a gonest gyda phobl am fy nghlefyd a'm bag, felly fe wnes i sicrhau bod pawb roeddwn i'n byw gyda nhw yn gwybod," meddai.

'Dwi yma, dwi'n iach, dwi'n ddiolchgar'

Ers ei llawdriniaeth mae hi'n byw bywyd i'r eithaf - mae hi wedi neidio allan o awyren, hyfforddi am hanner marathon ac wedi cymryd rhan mewn sesiwn modelu dillad.

Dros y 18 mlynedd diwethaf mae'r deunyddiau stoma sy'n cael eu dosbarthu gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi bron 芒 threblu.

Rhwng 2017-2018, cafodd dros 320,000 o fagiau stoma eu darparu.

Cafodd Jamie Whitmore, plymar 30 oed gyda chyngor Ynys M么n, ei eni gydag afiechyd Hirschsprungs, cyflwr sy'n effeithio ar goluddion plant newydd-anedig.

Bu fewn ac allan o Ysbyty Gwynedd cyn cael triniaeth frys yn Alder Hey yn Lerpwl, a chafodd fag dros dro.

Ffynhonnell y llun, Jamie Whitmore

Disgrifiad o'r llun, Roedd Jamie'n dewis peidio mynd i'r cawodydd wedi gwersi ymarfer corff yn yr ysgol

Ar 么l llawdriniaeth i geisio gwrthdroi'r broses yn saith oed, mi fethodd hwn a chafodd fag parhaol.

"Dwi'n cofio pan o'n i'n saith oed a trio reversio fo, es i lawr i dair st么n, esh i'n really wael, doedd o ddim yn lle neis i fod.

"Ond dwi yma, dwi'n iach, dwi'n ddiolchgar," meddai.

Ychwanegodd bod ei gyfnod yn yr ysgol yn anodd yn enwedig wrth wneud gwersi ymarfer corff, roedd Jamie'n dewis peidio mynd i'r cawodydd gan ei fod am gadw pob dim i'w hun.

Doedd e ddim am i bobl wybod bod ganddo fag.

Bellach yn dad i Osian, sydd bron yn ddwy oed, mae Jamie'n byw ym Methel ger Caernarfon gyda'i bartner Enfys. Cafodd ei ysbrydoli gan luniau swyddogol dyn arall ar Instagram oedd hefyd 芒 bag.

Dechreuodd fynd i'r gampfa'n rheolaidd a newidiodd ei ddeiet. Dywedodd ei fod wedi cadw'r bag yn gyfrinach tan y llynedd a'i fod wedi ei ddatgelu tra ar wyliau gyda'i bartner a'i fab bach.

Yn sgil hynny mae'r lluniau a roddodd ar gyfryngau cymdeithasol wedi bod yn rhyddhad iddo.

"Ddes i allan efo fo flwyddyn ddiwetha' ar Facebook a Instagram," meddai. "Allai ddim diolch i bobl ddigon efo be' gafodd ei ddweud a'r negeseuon dwi wedi cael dros bob man.

"Dwi'n difaru na nes i o'n gynt o wybod be' dwi'n wybod r诺an."

Dywedodd ei fod hefyd wedi cael llwyth o negeseuon gan bobl oedd 芒 bag ar 么l iddo fod yn agored ar gyfryngau cymdeithasol.

Wrth edrych i'r dyfodol, bwriad Amber a Jamie yw ceisio annog eraill sydd yn yr un sefyllfa 芒 nhw i fod yn hyderus a chwalu unrhyw ragdybiaethau sy'n bodoli am eu bagiau.