大象传媒

Cornel fach o Groeg yn y brifddinas

  • Cyhoeddwyd

Ar stryd fach yng Nghaerdydd - wedi ei lleoli hanner ffordd rhwng prysurdeb canol y ddinas, a thafarndai newydd y bae - mae yna gornel fach o Groeg.

Enw'r stryd yw Greek Church Street, ac arni mae eglwys Uniongred Roegaidd Sant Nicholas. Mae hi wedi sefyll yma ers 1906, ac yn gwasanaethu'r gymuned Roegaidd sydd wedi byw yn y brifddinas ers diwedd y 19eg ganrif.

Aeth Cymru Fyw yno i gael cipolwg ar yr adeilad hardd, ac i gael sgwrs 芒 rhai o gymuned yr eglwys am ei hanes a'u traddodiadau dros gyfnod y Pasg.

Cafodd cyfarfod cyntaf swyddogol o Roegwyr yng Nghaerdydd ei gynnal ar 18 Rhagfyr 1873. Roedd y gymuned yn cynnwys llongwyr o Groeg a oedd yn gweithio yn y porthladd, sef canolbwynt allforio glo y byd ar y pryd.

Penderfynodd y Groegwyr godi eglwys Uniongred Roegaidd ger y porthladd, a'i chysegru i Sant Nicholas, nawddsant y llongwyr. Cafodd ei chodi yn 1906.

Erbyn 2002, roedd angen llawer o waith atgyweirio arni. Fe gafodd popeth eu cludo draw o Groeg - y marmor, y pren, a hyd yn oed y cerrig ar y llwybr y tu allan. Mae rhan helaeth o'r gwaith pren cywrain, gan gynnwys yr iconostasis - y wal addurnedig sydd o flaen yr allor - wedi eu cerfio 芒 llaw.

Mae eglwys Sant Nicholas yn llawn darluniau o liwiau llachar, ac eiconograffeg ar y waliau a'r nenfwd.

Y Tad Iakovos Savva sydd yn egluro: "Dyma ddelweddau o Grist a'r seintiau. Nid oedd modd gweld Duw wyneb-yn-wyneb, ond daeth Iesu yn ddyn felly gallwn ei weld Ef. Mae'r eiconau yn portreadu'r Duw y gallwn ei weld. Mae'r rhain, a'r ffresgos lliwgar, yn gyfle i glirio'r meddwl ac i wedd茂o."

Mae darlun nawddsant yr eglwys, Sant Nicholas, bob amser i'r chwith o'r ddarlun o'r Forwyn Fair. Mae hefyd darlun o Dewi Sant yn yr eglwys, sydd yn cael ei fendithio gan yr aelodau bob dydd Sul, fel nawddsant Cymru.

Dros y blynyddoedd, mae yna gynyddiadau cyson wedi bod i nifer y boblogaeth Roegaidd yng Nghaerdydd; yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ystod yr 1950au oherwydd problemau gwleidyddol, cymdeithasol ac ariannol, ac yn ystod yr 1980au, pan ddaeth llawer o fyfyrwyr yma i astudio.

Does yna ddim cofnod swyddogol o'r boblogaeth yng Nghaerdydd ond yr amcangyfrif yw ei fod dros 2,000 o bobl. Mae'r ffigwr wedi cynyddu eto yn y 3-4 blynedd diwethaf oherwydd yr argyfwng ariannol yng Ngroeg.

Ond nid Groegwyr yn unig sydd yn mynychu Sant Nicholas.

"Nid yw'r gymuned yma yn ein heglwys yn glwb o expats - mae'n gymuned Gristnogol fyw, ac mae yna nifer nad ydyn nhw'n Roegwyr yn ein plwy' - yn cynnwys ein offeiriad cynorthwyol sy'n Gymro, ac un o'n darllenwyr, sydd yn Gymro Cymraeg," meddai'r Tad Iakovos Savva.

Mae aelodau'r eglwys wrthi'n paratoi at eu dathliad pwysicaf yn eu calendr, sef y Pasg.

Nid yw'r Pasg yn cael ei ddathlu yr un pryd yn yr Eglwys Uniongred Roegaidd ag mewn eglwysi gorllewinol. Eleni, mae Pasg yr Eglwys Uniongred yr wythnos ganlynol - ond weithiau gall pedair wythnos eu gwahanu. Mae hyn oherwydd fod yr Eglwys Uniongred yn dilyn y calendr Iwlaidd, tra bod y eglwysi gorllewinol yn dilyn y calendr Gregoraidd.

Y tro nesaf y bydd y ddwy eglwys yn dathlu'r un diwrnod fydd yn 2025.

Mae'r Eglwys Uniongred yn paratoi at y Pasg gyda thymor y Grawys. Ond yn hytrach na 'rhoi fyny' siocled a sigar茅ts, mae'n nhw'n stopio bwyta cig a chynnyrch llaeth yn ystod y Grawys.

O ddydd Sul y Blodau hyd at y dydd Sadwrn Sanctaidd, maen nhw'n dilyn digwyddiadau'r wythnos honno ym mywyd Iesu, drwy gario palmwydd ar Sul y Blodau (Palm Sunday), dathlu'r cymun ddydd Iau'r Dyrchafael, ac yn anrhydeddu'r groes ar y Gwener Sanctaidd.

"Ar y nos Wener a bore Sadwrn, rydyn ni'n cofio'r atgyfodiad cyntaf," meddai'r Tad Iakovos Savva. "Rydyn ni'n yn gorymdeithio yn y strydoedd o amgylch yr eglwys, gyda delw o Iesu wedi ei wneud o flodau, sef yr epitaphios. Mae 'na lawer o gynnwrf yn yr aer, a phawb yn gwneud s诺n a tharo cadeiriau, gan fod yna ddaeargryn wedi bod pan atgyfododd Iesu.

"Mae'n arwain at y foment rydyn ni'n dweud 'Mae Crist wedi codi' yn hwyr ar y nos Sadwrn/gynnar fore Sul. Rydw i'n taflu dail llawryf (bay) dros bawb, ac mae'r plant yn rhedeg o amgylch y lle yn llawen."

Yn ystod y cyfnod yma, mae'r eglwys yn orlawn, ac mae'n rhaid symud nifer o'r seddau er mwyn creu mwy o le.

Wedi'r gwasanaethau hollbwysig, mae'r dathliadau'n parhau o amgylch y bwrdd bwyd. Ar 么l y gwasanaeth cynnar fore Sul, mae'n draddodiad i'r Groegwyr fwyta cawl offal oen, neu i Roegwyr Cyprus fwyta cawl cyw i芒r ac wyau.

Maen nhw hefyd yn cracio wyau coch, gyda'r coch yn symbol o waed Crist, y si芒p yn cynrychioli'r garreg o flaen ei fedd a'r cracio yn symbol o'r Atgyfodi. Canolbwynt y dathlu yw pryd anferth o fwyd gyda chig oen ar farbeciw.

Fel yr eglura'r Tad Iakovos Savva, "Y Pasg yw prif 诺yl ein calendr ni. Heddiw, mae yna lawer mwy o ffws masnachol o amgylch y Nadolig, ond y Pasg sy'n parhau i fod y brif 诺yl. Rydyn ni'n dathlu gorchfygiad Iesu dros farwolaeth.

"Rydyn ni'n byw mewn byd sydd wedi ei drawsnewid gan wirionedd atgyfodiad Iesu, a dyma beth fyddwn ni'n ei ddathlu yn ystod y wledd fawr adeg y Pasg."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Maria Fanariotis - trysorydd yr eglwys, Anton Attard - cadeirydd yr eglwys, Y Tad Iakovos Savva - offeiriad, Katerina Lantzos - cadeirydd y chwiorydd

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ddelwedd yma o Dewi Sant yn cael ei fendithio bob dydd Sul gan yr eglwyswyr

Hefyd o ddiddordeb: