Theresa May yn colli pleidlais o hyder yn Ne Clwyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog wedi "colli ffydd" aelodau Ceidwadol ar lawr gwlad dros y ffordd mae hi wedi delio 芒 phroses Brexit, yn 么l un o gadeiryddion y blaid yng ngogledd Cymru.
Dywedodd Gareth Baines, cadeirydd y blaid yn etholaeth De Clwyd, nad yw'n cofio cyfnod pan mae ysbryd y blaid "wedi bod mor druenus o isel".
Mewn pleidlais ymhlith aelodau Ceidwadol yn yr etholaeth nos Fercher, fe wnaeth 88.8% gefnogi cynnig o ddiffyg hyder yn Theresa May.
Dim ond 3.7% oedd yn d芒l 芒 hyder yn Mrs May ac fe wnaeth 7.4% ymatal eu pleidlais.
Wedi'r bleidlais ym Mrymbo, dywedodd Mark Wallace o'r wefan ConservativeHome bod "gwrthryfela agored fel hyn yn brin ac yn arwydd o ba mor ddrwg mae pethau erbyn hyn".
Daeth y bleidlais yn sgil galwad gan dros 70 o benaethiaid lleol Ceidwadol led led y DU am gyfarfod arbennig i drafod arweinyddiaeth Mrs May.
Doedd Mr Baines ddim yn un o'r rheiny oedd wedi'i arwyddo, ond dywedodd y bydd y blaid yn Ne Clwyd yn gwneud hynny pe bai'r aelodau'n pleidleisio nad oes ganddyn nhw hyder yn y Prif Weinidog.
Dywedodd, yr hiraf y bydd Mrs May yn aros fel Prif Weinidog, "y mwyaf o niwed mae hi'n ei wneud i'r blaid ac i'r wlad".
'Neb eisiau ymgyrchu'
"Dydw i ddim yn meddwl mai proses Brexit yn unig ydy o - rwy'n meddwl mai'r Prif Weinidog yn gyffredinol ydy o," meddai.
"Dydy pobl ddim yn meddwl ei bod yn gwneud yn dda, yn gyntaf gyda Brexit, ac yn ail gydag unrhyw beth arall.
"Mae hi wedi colli ffydd yr aelodau ar lawr gwlad a hynny yw'r peth pryderus."
Mae Mrs May yn gobeithio y bydd T欧'r Cyffredin yn cymeradwyo ei chytundeb ymadael yn yr wythnosau nesaf fel na fydd yn rhaid i'r DU gymryd rhan yn Etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai.
Ond dywedodd Mr Baines y bod nifer o Geidwadwyr wedi dweud wrtho y byddan nhw'n pleidleisio dros Blaid Brexit pe bai'r etholiadau'n digwydd.
"Rydw i wedi gofyn i'r aelodaeth a heb glywed yn 么l gan unrhyw un sydd eisiau ymgyrchu dros y Blaid Geidwadol ar gyfer yr etholiadau," meddai.
"Rwy'n meddwl mai'r teimlad ydy, ar gyfer pleidleiswyr oedd o blaid aros a gadael, yw na ddylen ni fod yn cynnal yr etholiadau yma."
Fe wnaeth y Ceidwadwyr wrthod gwneud sylw ar y mater cyn pleidlais nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2019