大象传媒

Dim angen cod post yng ngwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri!

  • Cyhoeddwyd

Chwe deg mlynedd yn 么l i eleni dechreuwyd cofnodi strydoedd Prydain gyfan yn 么l cod post.

Roedd system cod post syml wedi bodoli yn Llundain cynt ond penderfynwyd ymestyn y drefn i weddill Prydain.

Ond bu rhai pobl cynt ac wedyn yn dibynnu ar wybodaeth leol y postmon i sicrhau bod llythyrau'n cyrraedd pen eu taith. Nid cyfeiriad oedd ar sawl amlen, ond barddoniaeth!

Ymhell cyn dyddiau cod post, courier a chyfrifiadur sy'n dweud wrth rywun sut i gyrraedd adref, cyrhaeddodd yr amlen hon ben ei thaith yn ddiogel gyda dim ond englyn ar ei chlawr!

Yng nghyfnod Brenin Si么r, ysgrifennodd bardd o'r enw Glan Cegin lythyr at fardd arall, Glan Rhyddallt, a hynny ar frys ('ar 么l cinio' meddai ar yr amlen).

Nid oedd yn gwybod y cyfeiriad felly meddyliodd y byddai englyn yn gwneud y tro ac fe gyrhaeddodd y llythyr yn llwyddiannus.

Chwarelwr oedd Glan Rhyddallt tan oedd dros ei drigain oed a sgwennodd gannoedd o englynion. Cafodd ei dderbyn i'r Orsedd yn Llanelli, 1903, a daeth yn adnabyddus iawn ymysg beirdd Cymru gyfan - yn ogystal 芒 phostmyn yr hen Sir Gaernarfon!

Yn llawer iawn mwy diweddar, yn 1989 derbyniodd Ema Miles amlen a'r cyfeiriad ar ffurf englyn gan dad i'w ffrind. Tecwyn Owen o Ddolgellau oedd y bardd ac meddai Ema, "Mae Lledrod yn bentre' bach iawn yng Ngheredigion ac roedd yn wyrth bod yr amlen wedi cyrraedd heb enw tref Aberystwyth na chod post arni!"

Mae gan Tecwyn Owen hefyd hanes englyn cyfeiriad arall:

"Efallai y byddech yn hoffi clywed am amlen a anfonwyd gan y Parchedig O. M. Lloyd, cyn-weinidog i ni yn Nolgellau a oedd wedi ymddeol i Gaernarfon. Cafwyd ganddo englyn bob Nadolig am flynyddoedd lawer. Rwy'n cofio'r englyn yn iawn. Ar y pryd roedd Si芒n a Dylan yn selog yn Ysgol Sul Y Tabernacl, Dolgellau:

At Si芒n a Dylan, eu dau yn selog,

Rhos Helyg, Dolgellau

A'i antics Tecwyn yntau,

Ac Eurwen Owen yn iau.

Yn 1952, anfonodd Y Parchedig Gwilym R. Tilsley gerdyn post o'i gartref ym Mae Colwyn i ddiolch i deulu yn yr Hendre, Rhoshirwaun, Pen Ll欧n.

Bryd hynny mi fyddai ambell i bregethwr yn gorfod teithio i Ben Ll欧n ar y bws ac ymestyn y 'bwrw'r Sul' o b'nawn Gwener tan fore Llun, os oedd yn cael lle da. Mae'n amlwg o'r cerdyn ei fod wedi cael llety gwerth chweil!

Un o gymeriadau Dyffryn Conwy oedd Huw Selwyn Owen, bardd o Ysbyty Ifan. Yn 1968 ysgrifennodd lythyr at R. E. Jones, Llanrwst yn derbyn gwahoddiad i gyfarfod o Englynwyr Nantconwy.

Roedd postmyn lleol Dyffryn Conwy wedi gwerthfarogi'r englyn cyfeiriad a glaniodd y llythyr yn ddiogel.

Soniwyd am lythyr Huw Selwyn Owen wrth Ddosbarth Cynganeddu Tafarn y Fic, Llithfaen yn Ionawr 2006. I brofi os oedd y gwasanaeth post yn gallu ymateb i englyn cyfeiriad yng nghanol yr offer technegol sy'n dosbarthu llythyrau bellach, lluniwyd englyn ar sail cyfeiriad Gwyneth Sol Owen ym Mhwllheli.

Aeth neb llai na'r Archdderwydd nesaf, Myrddin ap Dafydd, oedd digwydd bod yn athro ar y dosbarth, 芒'r amlen i Lanrwst i'w phostio, fel bod y prawf yn codi uwchlaw Cymreictod y post lleol!

Mae'r stamp yn dangos yn glir bod yr amlen wedi mynd drwy'r ganolfan ddosbarthu yng Nghaer (ond mae'n bosib iawn bod cynnwys rhan o'r cod post yn yr englyn wedi bod yn dipyn bach o gymorth!)

Yn 么l Gwyneth, wrth gofio'r profiad: "Postiodd Myrddin yr englyn i mi yn hwyr b'nawn Mawrth yn Llanrwst. Roedd yn dod drwy'r drws acw cyn naw y diwrnod canlynol... wedi bod yng Nghaer i gael ei ddosbarthu. Da iawn Mr Postman!"

Ar 么l i ni gyhoeddi'r erthygl yma, rydyn ni wedi clywed am fwy o lythyrau sydd wedi cyrraedd pen eu taith drwy gymorth barddoniaeth.

Anfonodd Hilda Williams lun llythyr a dderbyniodd hi yn 2003, a'r hanes tu 么l iddo:

Ffynhonnell y llun, Hilda Williams

"Dyma i chwi lun o amlen ges i drwy'r post yn 么l yn 2003 gan Emyr Jones o Penrhyndeudraeth, ar 么l i mi ddod adref oddi ar drip bws i Seefeld yn Awstria. Roedd Emyr ar y trip hefo ni ac yn tynu fy nghoes am fy mod yn ysgrifennu holl fanylion y gwyliau yn fy "llyfr bach". Os bydda'r dreifar wedi rhoid rhyw wybodaeth am gastell/eglwys/mynydd i ni, yna mi fydda Emyr yn gweiddi o du 么l y bws 'Hilda write it down' a dyna yw ystyr llinell olaf y bennill."

Ac ar Facebook, roedd gan Rhiannon Sparrow englyn diddorol i'w rannu hefyd:

Hefyd o ddiddordeb: