Marathon Llundain: 'Breuddwyd bachgen o Gorris'
- Cyhoeddwyd
Bydd ras gyfnewid arbennig yn cael ei chynnal ym mhentre' Corris, ger Machynlleth, ddydd Sul i ddathlu bywyd un o feibion y pentre' aeth ymlaen i sefydlu un o rasys marathon mwyaf y byd.
Mae disgwyl i tua 60 o bobl a phlant gymryd rhan yn y Corrithon wrth gofio am gyfraniad yr athletwr John Ivor Disley, un o gyd-sefydlwyr Marathon Llundain.
Dywedodd Carl Jones, un o'r rhai sy'n gyfrifol am y ras gyfnewid, ei bod yn "anhygoel i feddwl fod Marathon Llundain, sydd wedi codi dros 拢860m ers ei sefydlu yn 1981, wedi dechrau fel breuddwyd bachgen o Gorris".
Fe fydd un cymal i'r ras - yn mesur bron i filltir o hyd drwy'r pentre' - a honno yn cael ei rhedeg 26 o weithiau gan wahanol bobl neu grwpiau.
"O ni eisiau dweud wrth bobl am freuddwyd John Disley," meddai Mr Jones, sydd yn ei amser hamdden wedi bod yn gyfrifol am gynnal rasys beic mynydd yn yr ardal er mwyn codi arian at achosion da.
"Dwi wedi bod yn mynd ar y beic ac yn adrodd y stori i bobl ers blynyddoedd, yn adrodd stori John wrth i ni edrych o'r topiau i lawr ar Gorris a dweud mai dyna'r lle cafodd y dyn yma ei eni.
"Wedyn nes i feddwl y dylwn ni wneud rhywbeth i gydnabod ei gyfraniad.
"De ni'n gobeithio y bydd tua 60 yn cymryd rhan, yn deuluoedd ac unigolion. O ni eisiau rhoi cyfle i bobl allu cymryd rhan, felly yn hytrach na marathon cyfan, mae hwn yn rhywbeth sy'n rhoi cyfle i bawb.
"Roedd John yn un oedd eisiau pobl gymryd rhan, ac felly mae hyn yn ffordd dda o gofio amdano, rhywbeth allai pawb ei wneud."
Mae'r trefnwyr hefyd wedi llwyddo i sicrhau bod arddangosfa o fywyd John Disley yn ymweld 芒'r pentref ar gyfer yr achlysur.
Un o'r rhai fydd yn cymryd rhan ddydd Sul ydy Gwawr Price, sy'n wreiddiol o Gorris ond nawr yn byw ym Machynlleth.
"Mae pawb fydd yn rhedeg gyda chysylltiad 芒 Chorris, Mae o i ddathlu cyfraniad John Disley a'r ffaith bod dyn o Gorris wedi helpu sefydlu un o rasys marathon mwyaf enwog y byd.
"Bydd yna redwyr unigol a theuluoedd yn cymryd rhan."
Fe fydd y ras yn cael ei chynnal rhwng 10:00 a 14:30, ac mae disgwyl i'r camau olaf gael eu troedio gan y cystadleuydd ifanc, Rowan, sy'n 20 mis oed.
Bu farw John Ivor Disley yn 2016, yn 87 oed. Ef ynghyd ag athletwr arall, ei gyfaill Chris Brasher, sefydlodd Marathon Llundain yn 1981 ar 么l i'r ddau gymryd rhan ym marathon Efrog Newydd yn 1979.
Mae'n cael ei gydnabod fel yr athletwr cyntaf o statws rhyngwladol o Brydain mewn rasys ffos a pherth, gan ennill y fedal efydd yng ngemau Olympaidd Helsinki yn 1952.
Fe wnaeth 7,474 gymryd rhan ym Marathon Llundain yn 1981, gyda dros 40,000 yn cystadlu y llynedd.