Plaid Cymru'n galw am refferendwm annibyniaeth wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai Cymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth os yw Brexit yn digwydd heb bleidlais arall ar ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, yn 么l arweinydd Plaid Cymru Adam Price.
Dywedodd Mr Price y dylai pobl Cymru gael yr hawl i benderfynu rhwng "dyfodol mwy disglair fel gwlad annibynnol yng nghanol Ewrop" neu fel "rhanbarth ail ddosbarth anghofiedig mewn Prydain sy'n marw."
Ychwanegodd y dylai Cymru gynnal "sgwrs genedlaethol newydd" am ddyfodol y wlad beth bynnag fydd yn digwydd gyda Brexit.
Mae galwad ddiweddaraf Mr Price yn mynd ymhellach na'i araith yng nghynhadledd y blaid ym mis Mawrth.
Yn yr araith honno i aelodau Plaid Cymru ym Mangor, fe alwodd am refferendwm annibyniaeth oni bai bod cyfres o ofynion yn cael eu sicrhau ar 么l Brexit.
Roedd ei ofynion yn cynnwys galw am warantu cyllid Ewropeaidd i Gymru, toriadau mewn cyfrannau Treth ar Werth ar gyfer twristiaeth ac adeiladu, datganoli pwerau dros drethi maes awyr, a rheolaeth dros bolisi mudo.
'San Steffan ar chwal'
Ychydig dros fis yn ddiweddarach, mae Mr Price wedi mynd ymhellach drwy ddweud y dylid cynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru os fydd Brexit yn digwydd heb refferendwm arall ar ein haelodaeth o'r UE.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru: "San Steffan ar chw芒l sydd wedi methu pobl Cymru nid yr UE.
"Nid wyf yn credu bod y tlodi sy'n wynebu ein gwlad yn anochel ac ni fydd Brexit yn datrys y problemau hyn.
"Byddan nhw'n cael eu datrys trwy gymryd ein dyfodol yn ein dwylo ein hun a dod yn genedl annibynnol."
'Dechrau sgwrs genedlaethol'
Mae'r sylwadau'n dilyn galwad gan Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ddydd Mercher am ail refferendwm ar annibyniaeth erbyn 2021 os caiff yr Alban ei thynnu allan o'r UE.
Ychwanegodd Mr Price: "Beth bynnag sy'n digwydd gyda Brexit dros yr ychydig fisoedd nesaf fe ddylem ddechrau sgwrs genedlaethol newydd am y math o ddyfodol yr hoffem i Gymru ei gael drwy sefydlu Cynulliad Dinasyddion Cymru ar hyd y llinellau arfaethedig yn yr Alban."
Yn 么l arolwg barn diweddaraf 大象传媒 Cymru ar gyfer Dydd G诺yl Dewi, dim ond 7% o bleidleiswyr Cymru a gefnogodd y syniad o annibyniaeth I Gymru allan o gyfres o opsiynau gwahanol.
Mae'r gefnogaeth wedi bod yn llai na 10% ers 2011.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2019