大象传媒

Cwricwlwm i 'chwalu ffiniau traddodiadol rhwng pynciau'

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ni fydd y cwricwlwm drafft yn "nodi'r hyn y dylai'r disgyblion fod yn ei ddysgu fesul pwnc, fesul testun, fesul awr", medd Kirsty Williams

Bydd cwricwlwm newydd ysgolion Cymru yn "newid mawr o ran diwylliant" gan chwalu ffiniau traddodiadol rhwng pynciau, yn 么l y Gweinidog Addysg Kirsty Williams.

Wedi'i ddisgrifio fel y diwygiad mwyaf i ysgolion mewn degawdau, mae prifysgolion, cyflogwyr, athrawon a rhieni yn cael mynegi eu barn cyn cyhoeddi'r fersiwn derfynol y flwyddyn nesaf.

Nod y cwricwlwm yw ailystyried sut y dylai pobl ifanc gael eu haddysgu ac mae'n cyflwyno chwe maes dysgu eang.

Ond mae Plaid Cymru yn pwysleisio bod rhaid bod gwella ariannu cyllid ysgolion er mwyn i'r fenter lwyddo.

Fe fydd yn cael ei gyflwyno mewn ystafelloedd dosbarth cynradd a Blwyddyn 7 o fis Medi 2022, cyn symud i fyny at Flwyddyn 11 erbyn 2026.

'Carreg filltir bwysig'

Mae angen cyflwyno'r newidiadau oherwydd bod y cwricwlwm presennol, gafodd ei gyflwyno ym 1988, yn "gul" a "hen ffasiwn", yn 么l y llywodraeth.

Er bydd y cwricwlwm yn gosod fframwaith cyffredinol, bydd ysgolion unigol yn cynllunio eu dulliau eu hunain o gyflawni'r amcanion.

Y bwriad yw y bydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i athrawon i fod yn greadigol wrth ddehongli'r cwricwlwm.

Mae'r llywodraeth wedi disgrifio cyhoeddiad y cwricwlwm drafft fel carreg filltir bwysig.

Fe fydd chwe ardal o ddysgu a phrofiad:

  • Celfyddydau mynegiannol;

  • Dyniaethau;

  • Iechyd a Lles;

  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg;

  • Mathemateg a Rhifedd;

  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Disgrifiad,

Dywedodd Eirian Williams ei bod yn "edrych ymlaen, ond yn ofnus hefyd" am y cwricwlwm newydd

Mae Eirian Williams yn athrawes gerdd ac yn fam i ddau o blant ifanc, ac yn edrych ymlaen at y cwricwlwm newydd, ond hefyd yn cyfadde' bod yna nerfusrwydd.

"Dwi'n meddwl fod pawb yn ofnus," meddai.

"Mae'r byd 'di newid cymaint ers y cwricwlwm diwethaf... cymaint o ddatblygiadau technolegol. Mae angen i'r cwricwlwm fod yn dysgu'r sgiliau y mae'r plant eu hangen.

"Dwi'n edrych ymlaen oherwydd 'mod i'n greadigol a sut y bydd hyn yn helpu hefo'r pwnc dwi'n ddysgu, ond dwi'n nerfus hefyd.

"Dwi'm yn si诺r maen nhw'n mynd i arholi ar y diwedd... mae o'n gymaint o beth mawr a dwi'n meddwl fod pawb yn apprehensive."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno mewn ystafelloedd dosbarth cynradd a Blwyddyn 7 o fis Medi 2022

Dywedodd Kirsty Williams na fyddai'r cwricwlwm newydd fel "llyfr rheolau".

"Mae'r hyn rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn wahanol iawn i'r hyn y bydd y rhan fwyaf ohonom wedi'i brofi, ac mae'n newid mawr o ran diwylliant," meddai.

"Rydym yn rhoi'r gorau i gwricwlwm cyfyngol, sydd ar 么l yr oes bellach, ac sy'n nodi'r hyn y dylai'r disgyblion fod yn ei ddysgu fesul pwnc, fesul testun, fesul awr. Nid llyfr rheolau mo hwn.

"Gan ddefnyddio eu gwybodaeth, eu profiad a'u harbenigedd helaeth, mae athrawon yng Nghymru wedi creu fframwaith sy'n nodi hanfodion addysg wirioneddol yr 21ain ganrif.

"Bydd hyn yn cymryd amser, sy'n golygu cydweithio 芒'r proffesiwn er mwyn inni wneud pethau'n iawn."

Mae Ms Williams yn annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad, sy'n cael ei gynnal tan 19 Gorffennaf, a dywedodd y byddai'n dechrau ar daith o amgylch Cymru i drafod y cynigion.

Pryderon

Mae undebau athrawon wedi bod yn gefnogol i'r weledigaeth sydd wrth wraidd y cwricwlwm ond maen nhw wedi codi rhai pryderon am adnoddau.

Yn gynharach ym mis Ebrill, fe glywodd cynhadledd flynyddol undeb yr NASUWT bod newidiadau mewn rhai ysgolion, wrth baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, wedi achosi "aflonyddwch ac ansicrwydd" i athrawon a disgyblion.

Dywedodd Sion Amlyn o'r undeb: "Mae o'n gwricwlwm costus iawn a hwnna yw'r broblem sydd gan y llywodraeth, dwi'n meddwl - sut maen nhw'n cyplysu'r dyhead yma gyda'r cyllid presennol.

"Dyna 'dy'r gofid o'r hyd 'da ni wedi clywed gan aelodau - 'da chi'n gweld rhyw fymryn yn cychwyn ohono'n barod."

Yn 么l Plaid Cymru mae gan y "cwricwlwm newydd y potensial i chwyldroi profiad dysgu plant a phobl ifanc yng Nghymru".

"Ond os nad yw cyllid ysgolion yn gwella, fe all yr holl fenter brofi'n drychinebus i genedlaethau'r dyfodol," meddai Si芒n Gwenllian AC.