Y trawma tra'n newid rhywedd
- Cyhoeddwyd
Mae April Welsh yn byw yn y Coed-duon ac yn byw bywyd hapus. Ond tra roedd hi'n tyfu i fyny, fel bachgen, roedd hi'n gwybod ei bod hi'n wahanol.
Mae April yn destun rhaglen deledu ar S4C ac roedd yn siarad ar raglen Post Cyntaf ar Radio Cymru am ei theimladau wrth dyfu i fyny a'r problemau mae hi wedi eu hwynebu wrth benderfynu trawsnewid o gorff gwrywaidd i fenywaidd.
"Roeddwn i'n gwybod ers i mi fod tua phum mlwydd oed neu iau fy mod yn wahanol, a fy mod i'n ferch. Ond roedd meddwl am esbonio hynny wrth bobl yn gwneud i mi feddwl bod rhywbeth yn bod gyda fi," meddai.
"Fe ddechreuais i droi'n introvert, gan guddio o bopeth ac yn meddwl y byddwn i mewn trwbl os fydde rhywun yn ffeindio mas."
Ym mis Medi 2015 fe wnaeth April benderfynu ei bod am ddechrau triniaeth hormonau yng Nghymru. Ond doedd hi erioed wedi meddwl y byddai'r driniaeth yn peryglu ei bywyd.
Mae rhaglen Drych: Merch fel fi ar S4C yn dilyn April wrth iddi wynebu trobwynt yn ei bywyd wedi iddi orfod rhoi stop ar y driniaeth am iddi droi'n s芒l iawn.
"Un noson roedd rhaid i mi ffonio am ambiwlans, achos roedd fy ngolwg i wedi mynd yn rhyfedd, cur pen ofnadwy ac ectopic beats gyda nghalon i'n sgipio curiadau ac o'n i'n meddwl 'dydi hyn ddim yn naturiol'," meddai.
"Oeddwn i bron a colapso ac o'n i yn yr ysbyty am bythefnos ac o'dden nhw'n cadw golwg ar fy nghalon."
Roedd April ar un adeg yn meddwl ei bod am farw yn ystod y salwch: "Oeddwn i'n meddwl 'dyma'r diwedd', ac o'n i'n meddwl doedd 'na ddim byd oeddwn i'n gallu ei wneud achos roedd rhaid i mi jest cael y driniaeth i gyd.
"Roedden nhw'n pryderu am fy iechyd meddwl i. Roeddwn i'n dioddef a dwi'n cael help i ddelio efo'r PTSD o'r trawma yn dilyn beth ddigwyddodd."
Mae April yn gobeithio y bydd mwy o rybuddion yn cael eu rhoi i bobl sy'n mynd drwy'r broses o newid rhywedd er mwyn sicrhau eu diogelwch.
"Mae angen cynnig mwy o wybodaeth, ac ei wneud e'n fwy accessible hefyd.
"Falle mwy o wybodaeth i GPs hefyd, achos mae pawb ohonon ni'n dysgu am yr effeithiau. Doeddwn i ddim yn disgwyl unrhyw berygl i ddweud y gwir, ond fe ddigwyddodd. Dwi jest ddim eisiau fe ddigwydd i neb arall."
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dweud eu bod yn flin bod April yn teimlo'n bryderus am y driniaeth y gwnaeth hi ei dderbyn.
Mae April erbyn hyn yn derbyn triniaeth yn Lloegr, ac yn obeithiol iawn am ei dyfodol.
Mae'r rhaglen, sy'n cael ei dangos nos Sul ar S4C am 21:00 yn dilyn April wrth iddi frwydro i ailgychwyn y driniaeth anodd a darganfod beth yn union mae'n golygu iddi i fod yn fenyw.
Hefyd o ddiddordeb: