大象传媒

Cwm Taf: Pwysau'n cynyddu ar y Gweinidog Iechyd Gething

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Vaughan Gething yn wynebu galwadau iddo ymddiswyddo yn dilyn y beirniadaeth o wasanaethau mamolaeth

Mae'r Gweinidog Iechyd dan bwysau cynyddol i ymddiswyddo yn sgil adroddiad damniol am fethiannau Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Yn 么l yr adroddiad ar wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful roedd y system dan "bwysau eithafol" gydag arweinyddiaeth "israddol".

Ar y Post Cyntaf fore Mercher dywedodd Paul Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, y dylai Vaughan Gething ymddiswyddo,

Ddydd Mawrth fe wnaeth Plaid Cymru ddweud eu bod am gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder, ond mae Mr Gething wedi gwrthod galwadau i ymddiswyddo gan ddweud nad "un person neu un gr诺p oedd yn gyfrifol am y methiannau".

Fore Mercher, dywedodd Mr Davies wrth y Post Cyntaf y dylai'r gweinidog ymddiswyddo.

"Mae'r cyfrifoldeb yn gorwedd gydag ef, ac yn y pendraw mae e wedi methu."

"Mae'n rhaid gweld y bwrdd iechyd yn atebol, rhaid iddyn nhw gymryd y cyfrifoldeb... a dyna pam y dylai prif weithredwr y bwrdd a chadeirydd y bwrdd ymddiswyddo.

"Ac mae'n amlwg fod y Gweinidog Iechyd wedi methu rheoli y sefyllfa.

"Ac er mwyn rhoi hyder n么l yn y system ac i weld y newidiadau sydd eisiau mae'n rhaid i ni gael gweinidog newydd."

Disgrifiad,

Bu farw babi Sarah Handy ar 么l cael ei geni'n gynnar, ac mae hi'n feirniadol o'r gwasanaeth yng Nghwm Taf Morgannwg

Hefyd ar y rhaglen fe wnaeth Helen Mary Jones, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, ailddatgan eu bwriad i gyflwyno mesur o ddiffyg hyder oni bai fod y gweinidog yn ymddiswyddo.

"Dydyn ni ym Mhlaid Cymru ddim yn galw bro tro mae rhywbeth yn mynd o'i le mewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru i rywun sefyll i lawr," meddai.

"Ond mae gyda ni fethiannau dros y systemau iechyd, fe sy'n gyfrifol ac fe ddylai benderfynu fod dim hyder gan bobl fod pethau yn mynd i newid tra bod e wrth y llyw.

"Byddaf i'n lico gweld o'n mynd cyn i ni orfod cynnig y cynnig o ddiffyg hyder... byddai hynny'n fwy urddasol."

Gething am 'gamu lan'

Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Mr Gething ei fod yn gosod Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg dan fesurau arbennig.

Dywedodd fod y canfyddiadau'n "ddifrifol ac yn achos pryder", ac ychwanegodd y byddai'n "peri gofid i deuluoedd a staff sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth".

Ymddiheurodd i'r rhai gafodd eu heffeithio gan y "gofal o ansawdd gwael a ddisgrifiwyd", gan ychwanegu ei fod yn "benderfynol" y bydd y camau gafodd eu cyhoeddi yn "ysgogi'r newidiadau angenrheidiol i wella gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf".

"Mae'n hanfodol bwysig i'r gwaith hwn gynnig tawelwch meddwl i deuluoedd sy'n derbyn gofal ar hyn o bryd yn eu hysbytai."

Wrth ateb galwad i ymddiswyddo, dywedodd y byddai'n "camu lan" i'w gyfrifoldebau er mwyn "goruchwylio'r newidiadau angenrheidiol" sydd eu hangen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r bwrdd iechyd yn gyfrfiol am wasanaethau mamolaeth Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles

Dywedodd yr Athro Marcus Longley, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod galw am ddiswyddiadau yn camddeall y sefyllfa.

"Pe bai ni yn rhoi'r awenau i rywun arall byddwn yn llesteirio'r ymdrechion sydd wedi eu gwneud i gywiro'r methiannau.

"Pe bai yna ad-drefnu o'r t卯m rheoli yna byddwn yn colli peth o'r momentwm sydd wedi ei adeiladau."

Ychwanegodd ei fod yn derbyn eu bod wedi methu yn y dasg o reoli'r gwasanaeth a chyflwyno gwelliannau ynghynt.

Cyfeiriodd at faterion cymhleth dros gyfnod o amser oedd yn gyfrifol am y sefyllfa ac "roedd wedi dod yn arferiad i weithio yn y modd anghywir".