大象传媒

Prifysgolion Cymru'n well am gynhyrchu busnesau

  • Cyhoeddwyd
cynnyrch
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o gynnyrch cwmni Jenny Kate

Mae prifysgolion Cymru yn well am gynhyrchu entrepreneuriaid na phrifysgolion y DU yn gyffredinol.

Mae tua un o bob 20 myfyriwr yn y DU yn cael eu haddysg ym mhrifysgolion Cymru, ond mae un o bob 10 o'r rheini yn dechrau busnesau.

Yn 么l ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae 44% o fusnesau a sefydlwyd yng Nghymru yn dal i fasnachu wedi pum mlynedd - mae hynny hefyd yn uwch na'r cyfartaledd i'r DU o 43.2%.

Fe wnaeth y dylunydd tecstiliau Jenny Evans raddio o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd y llynedd, ac mae hi bellach yn cyflogi wyth o bobl.

Fe sefydlodd ei chwmni, Jenny Kate, pan oedd yn dal yn fyfyriwr, ac mae hi bellach yn gwerthu ei dyluniau ar gadeiriau, llyfrau sgrifennu, clustogau ac ati.

Roedd yn un o 254 o fyfyrwyr o brifysgolion Cymru a sefydlodd fusnesau ar 么l graddio y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Jenny Kate
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n codi braw arnai ond mae'n rhoi boddhad mawr hefyd," medd Jenny Evans

Dywedodd Ms Evans, sy'n wreiddiol o Plymouth, fod cyflogi pobl eraill yn "anrhydedd enfawr ond yn gyfrifoldeb anferth hefyd".

"Mae'n codi braw arna i, ond ar yr un pryd mae'n rhoi boddhad mawr. Mae'n gosod heriau unigryw, ond fyddwn i ddim lle'r ydw i nawr heb y t茂m sydd gen i."

Mae nifer y graddedigion sy'n entrepreneuriaid yn dal yn fychan o gymharu 芒 nifer y myfyrwyr i gyd, ac un eglurhad posib yw fod pobl ifanc yn sefydlu busnesau oherwydd diffyg cyfleoedd mewn rhai diwydiannau yng Nghymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr Athro Julie Lydon fod nifer o fyfyrwyr yn dod i Gymru a phenderfynu aros yma

Ond mae Prifysgolion Cymru'n dweud fod y ffigyrau'n dangos faint o gefnogaeth y mae graddedigion yn ei gael i annog entrepreneuriaeth.

Dywedodd yr Athro Julie Lydon, cadeirydd Prifysgolion Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, ei bod yn amau fod yr awydd i aros yng Nghymru i weithio yn un o'r rhesymau.

"Rwy'n gweld hynny gyda rhai o'n graddedigion ni, sy'n dweud 'dyma dwi am neud, dwi am aros yng Nghymru'," meddai.

"Mae pobl sy'n dod yma i astudio yn cael eu syfrdanu gan yr hyn sydd yma. Mae'n rhaid fod rhywbeth ry'n ni'n gwneud yma sy'n gwneud i bobl eisiau aros, a dyna oedden ni am gyflawni."