大象传媒

'Ges i PTSD ar 么l genedigaeth anodd'

  • Cyhoeddwyd

Ar 么l genedigaeth anodd ei mab hynaf, Caleb, yn 2017, dechreuodd Michelle Wyn-Jones o Fae Cemaes, Ynys M么n, ddioddef gyda'i iechyd meddwl, gan ddioddef symptomau o PTSD (post-traumatic stress disorder).

Gwaethygodd ei symptomau pan oedd hi'n feichiog gyda'i hail blentyn, ond yn dilyn sesiynau therapi arbennig mae hi wedi gallu rhoi ei phrofiadau trawmatig y tu 么l iddi.

A hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau, rhannodd Michelle ei stori 芒 Cymru Fyw er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg mamau eraill yngl欧n 芒'r cyflwr.

Ffynhonnell y llun, Michelle Wyn-Jones

Mae'r cyfnod ar 么l cael plentyn i fod yn un hapus, ond i Michelle, roedd hi'n gyfnod nad yw hi'n ei gofio 芒 gw锚n ar ei hwyneb:

"Pan dwi'n cofio misoedd cyntaf Caleb, dwi'n teimlo biti drosto fi fy hun, achos o'n i yna yn gorfforol, ond o'dd fy mhen dros y lle. Roedd fy mhen yn ail-fyw'r stori drosodd a throsodd, yn ail-fyw'r enedigaeth," meddai.

"Roedd o'n enedigaeth hir - parodd am dridiau. Oedd o'n mynd yn iawn, ond wedyn roedd 'na drobwynt anferth, a nes i orfod cael forceps, nes i golli lot o waed a gorfod cael llawdriniaeth tair awr. O'n i methu gadael yr ysbyty am bump diwrnod a wedyn do'n i methu cerdded yn iawn am wythnosau."

Er fod y creithiau corfforol fwy neu lai wedi clirio bellach, roedd y creithiau seicolegol yn ddwfn iawn, ac roedd Michelle yn dioddef yn wael 芒'i hiechyd meddwl. Ond doedd Michelle na'i g诺r, Alun, yn sylweddoli beth oedd yn bod arni.

"Oherwydd fod Alun wedi gweld mor ofnadwy oedd yr enedigaeth wedi bod, roedd, mae'n debyg, wedi bod yn edrych allan am symptomau iselder 么l-enedigol, gan fod hynny'n rhywbeth roedd wedi clywed amdano. Roedd o'n edrych allan am byliau o iselder neu deimladau tywyll, ond mae'n debyg mai teimladau PTSD ac 么l-fflachiadau o'n i'n eu cael."

Methu siarad gyda neb

Roedd Michelle hefyd yn profi llawer o deimladau nad oedd yn eu deall, nac yn medru eu trafod gyda neb.

"Ro'n i'n gwybod yn rhesymegol fod popeth yn iawn. Roedd Caleb yn iawn, ond do'n i methu helpu sut o'n i'n teimlo. Nes i ddechrau teimlo'n euog, achos ddaeth yr un ohonon ni'n agos at farwolaeth... felly pam mod i methu prosesu hyn? Ac o'n i'n dechrau meddwl efallai fod profiad pawb fel yna," meddai.

"Achos mod i ddim yn adnabod y symptomau yma, ac yn teimlo cywilydd o'r enedigaeth, do'n i ddim wedi siarad amdano fo efo neb. Felly doedd neb wir yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen tu mewn i mhen, tan i'r doctor fy herio mewn apwyntiad tua wyth wythnos ar 么l geni Caleb, a daeth popeth allan.

"Rhoddodd gerdyn therapydd i mi. Nes i ei roi yn fy mhwrs, yn meddwl y byddwn i'n ei ffonio os byddai angen, ond hefyd wir yn meddwl y byddwn i'n gallu delio efo hwn ar fy mhen fy hun."

Ffynhonnell y llun, Michelle Wyn-Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Michelle yn dioddef 么l-fflachiadau a symptomau PTSD yn dilyn genedigaeth drawmatig ei mab cyntaf, Caleb

Dros y misoedd nesaf, er fod yr 么l-fflachiadau yn digwydd yn llai aml, roedd siarad am ei phrofiadau heb grio dal yn anodd iddi.

"Ro'n i'n cael ymateb corfforol - dagrau, fy nghalon i'n curo, teimlo'n s芒l. O'n i methu hyd yn oed siarad efo pobl eraill am eu genedigaethau nhw. Ro'n i'n cael y teimlad 'ma o banig, ac o'n i methu delio efo - o'n i eisiau cuddio, o'n i eisiau rhedeg i ffwrdd."

Paratoi at ail blentyn

Flwyddyn yn ddiweddarach, 芒'r teulu wedi symud yn 么l i Ynys M么n o Loegr, gwaethygodd iechyd meddwl Michelle pan sylweddolodd ei bod yn feichiog 芒'u hail blentyn.

"Pan es i i apwyntiadau, ac roedden nhw'n gofyn am yr enedigaeth gyntaf, do'n i'm yn gallu stopio crio wrth adrodd y stori. Sylweddolon nhw - a fi - pa mor ddifrifol oedd o.

"Ro'n i mor falch eu bod nhw wedi ei gymryd gymaint o ddifri' - roedd gen i gymaint o ofn fod yr ail enedigaeth am fod fel y gyntaf."

Y cyngor meddygol a gafodd Michelle oedd bod angen gwahanu ochr gorfforol ac ochr feddyliol yr enedigaeth nesaf.

I ddelio gyda'r ochr gorfforol, cafodd llawdriniaeth Cesaraidd ei drefnu, ac o ran yr ochr feddyliol, cafodd Michelle sesiynau gyda therapydd drwy raglen Rewind, sy'n rhan o Wasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i'w helpu i ddygymod 芒'i phrofiadau.

"Y ffordd ddisgrifiodd hi o oedd fod yr atgof wedi cael ei ffeilio yn rhan anghywir fy ymennydd, ac ro'n i angen help i'w symud. Roedd wedi ei ffeilio mewn man emosiynol, dwys iawn - felly bob tro o'n i'n meddwl am y profiad, roedd o'n mynd 芒 fi yn 么l i'r adeg yna.

"'Sgen i ddim syniad sut, ond helpodd hi fi i'w symud mewn dim ond dwy sesiwn. Hyd yn oed yn ystod y therapi, pan o'n i'n gorwedd ar y soffa, o'n i'n teimlo'r emosiynau yn diflannu - roedd o'n anhygoel.

Ffynhonnell y llun, Michelle Wyn-Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Michelle sesiynau therapi er mwyn ei pharatoi ar gyfer genedigaeth ei hail fab, Caron

"Mae fel atgof r诺an, ac mae wedi ei wanhau. Roedd o'n arfer bod fel ffilm, roedd o mor fyw yn fy mhen.

"Ro'n i eisiau gallu edrych yn 么l ar y profiad a gallu meddwl 'oc锚, ges i enedigaeth wael, ond dyna sut oedd o, a dyna ni'. Do'n i ddim eisiau'r teimlad o fethiant o'i gwmpas o, na gymaint o ymateb emosiynol. Dwi'n edrych arno fo a meddwl 'roedd hynny'n uffernol a dwi ddim eisiau mynd drwy hynny eto', ond dwi ddim yn cael ymateb ryfedd iddo fo erbyn hyn."

Symud ymlaen

Yr adeg y sylweddolodd Michelle ei bod yn teimlo'n well oedd pan lwyddodd i ddarllen ei llyfrau genedigaeth, yr oedd wedi gorfod eu cuddio oherwydd eu bod yn achos gymaint o bryder iddi am yr hyn oedd o'i blaen.

Roedd Michelle yn teimlo cystal am y peth fel ei bod hi wedi dechrau paratoi'n feddyliol am y posibilrwydd o enedigaeth naturiol, rhag ofn i'w hail blentyn ddod yn gynnar. Roedd hyd yn oed ystyried hyn yn anhygoel, meddai, "o weld sut o'n i ar ddechrau'r beichiogrwydd, pan byddwn i byth wedi gallu meddwl am roi genedigaeth yn naturiol eto".

Ond, diolch byth i Michelle - a hithau ond maint 6 - drwy lawdriniaeth y cafodd Caron, 9 pwys 9 owns, ei eni ym mis Tachwedd 2018.

Ffynhonnell y llun, Michelle Wyn-Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y teulu bach: Caleb, Alun, Michelle a Caron

Mae Caleb newydd droi'n ddwy, ac er fod Michelle bellach yn teimlo'n llawer gwell, ac yn gallu trafod ei phrofiadau yn fwy agored y dyddiau yma, mae hi'n ymwybodol iawn y gallai trafod hanes ei enedigaeth gyntaf mewn gormod o fanylder ddad-wneud ychydig ar y cynnydd mae hi wedi ei wneud.

Mae hi'n teimlo'n obeithio iawn ar gyfer y dyfodol.

"Dwi'n meddwl ei fod o wedi sortio r诺an. Dydi o ddim yn effeithio ar fy mywyd. Hyd yn oed y ffaith mod i'n gallu siarad am y peth a pheidio crio - mae o'n enfawr," meddai.

"Dwi'n hapus. R诺an, dwi'n gallu mwynhau fy mabi a fy nheulu."