大象传媒

Llywodraeth Cymru'n cydnabod prinder nyrsys gwrywaidd

  • Cyhoeddwyd
GIG CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

12% o nyrsys, bydwragedd a staff sy'n ymweld 芒 chleifion yn eu cartref yng Nghymru sy'n ddynion

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn cydnabod bod prinder dynion yn gweithio fel nyrsys yng Nghymru.

Mewn ymgais i gynyddu niferoedd, am y tro cyntaf eleni mae'r llywodraeth yn dweud y byddan nhw yn defnyddio dyn fel "gwyneb" ei hymgyrch recriwtio nyrsys.

O'r 32,927 o nyrsys, bydwragedd a staff sy'n ymweld 芒 chleifion yn eu cartref yng Nghymru, 12% ohonynt - 3,966 - sy'n ddynion.

Mae'r ffigyrau, o fis Medi 2018, yn dangos mai 9.5% o'r nyrsys cymwysedig sy'n wrywaidd, tra bod 17.6% o nyrsys heb gymhwyster yn ddynion.

'Y balans yn gwella'

Roedd Nick Davies, sy'n nyrs ar ward plant Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, yn gweithio gyda pheiriannau ar 么l gadael ysgol, cyn penderfynu dilyn gyrfa yn y gwasanaeth iechyd yn 2003.

Dywedodd ei bod yn bwysig bod balans o fewn swyddi nyrsio, ond pwysleisiodd mai safon y gofal sydd bwysicaf, nid pwy sy'n ei ddarparu.

"Yn gweithio ar ward plant, fi'n gweld bod merched efallai'n cael rapport gyda'r menywod sy'n nyrsio yno, ond fi'n meddwl bod y bechgyn yn teimlo eu bod yn gallu cyfathrebu gyda fi tipyn yn well," meddai.

"Yn enwedig bechgyn h欧n - maen nhw'n gallu agor lan i nyrs gwrywaidd.

"Pan we'n i'n dechrau n么l yn 2003 gallen i fynd sifft gyfan heb weld dyn arall.

"Ond heddi mae lot mwy o ddynion yn nyrsio nag oedd bryd hynny, felly mae pethau'n gwella a fi'n credu bod y balans yn dechrau dod."

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 88% o nyrsys Cymru'n ferched

Ychwanegodd Mr Davies y byddai'n annog unrhyw un i ddilyn gyrfa fel nyrs.

"Sa'i wedi edrych 'n么l. Mynd mewn i nyrsio yw'r peth gorau fi 'di wneud," meddai.

"Mae'r gwaith yn galed, ac mae 'na lot o bwysau ar nyrsys ar y funud, ond mae'r job satisfaction yn llawer gwell."

'Erioed wedi ystyried y peth'

Roedd Robert Owen yn gweithio fel rheolwr tafarndai am flynyddoedd cyn dilyn gradd mewn nyrsio ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd nad oedd wedi ystyried gyrfa o fewn y gwasanaeth iechyd cyn i ffrindiau awgrymu hynny iddo oherwydd ei sgiliau gyda phobl.

"Doeddwn i erioed wedi meddwl am y peth a bod yn onest, er bod llawer o'n nheulu'n gweithio fel nyrsys," meddai.

"O'n i'n meddwl mai i ferched oedd nyrsio. Doedd gen i ddim profiad o gael dynion fel nyrsys, felly do'n i erioed wedi ystyried y peth nes i'n ffrindiau awgrymu.

"O astudio a gweithio ym myd gofal dwi'n gweld bod cymaint o esiamplau fel role models o ran dynion mewn nyrsio, ond i bobl o'r tu allan sydd ddim yn gweithio yno, dydy o ddim yn rhywbeth amlwg.

"Dwi ddim 'di dod ar draws unrhyw un sydd wedi meddwl ei fod o'n od 'mod i'n hyfforddi fel nyrs a finnau'n ddyn."