大象传媒

Cyngor i benderfynu tynged llosgydd gwastraff Abertawe

  • Cyhoeddwyd
protest
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwrthwynebiad gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Lon Las mewn protest tu allan i swyddfeydd y cyngor

Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Abertawe yn penderfynu ar dynged cynllun i adeiladu llosgydd gwastraff newydd yn Llansamlet ddydd Mawrth.

Mae'r cynnig yn cael ei wrthwynebu gan nifer o drigolion yr ardal yn sgil pryderon am iechyd pobl leol, a pha mor agos byddai'r safle i ysgol gyfagos.

Ond mae'r cyngor yn dweud nad ydi'r bwrdd iechyd a'r corff rheoli llygredd lleol yn cefnogi'r pryderon hynny.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau i alw'r cais i mewn, gan bwysleisio mai cyfrifoldeb yr awdurdod ydi dod i benderfyniad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Wayne Bellamy yn bryderus am ba mor agos fyddai'r llosgydd i ysgol ei blant.

Pryder am lygredd

Mae cwmni rheoli gwastraff, Biffa, am i'r llosgwr gwastraff gymryd lle warws gwag ym Mharc Menter Abertawe.

Maen nhw'n dweud y byddai'r llosgwr yn prosesu 21,000 tunnell o wastraff diwenwyn, ac yn creu 15 swydd llawn amser.

Ond daeth 2,500 o lythyrau yn gwrthwynebu'r cynnig i ddwylo'r cyngor yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus - gyda'r mwyafrif yn nodi pryderon am lygredd aer, a pha mor agos fyddai'r safle i ysgol a thir naturiol.

Serch hynny, mae Biffa yn mynnu bod lefelau llygredd y llosgwr yn is na'r rhai sy'n cael eu gosod gan safonau ansawdd aer y Deyrnas Unedig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae protestwyr wedi mynegi pryder y byddai'r llosgydd mor agos at ysgolion lleol

Eisiau 'dianc'

Mae Wayne Bellamy, yn byw gerllaw gyda'i wraig a'i ferch fach sy'n dioddef o asthma.

Mae'n dweud bod ansawdd aer gwael yn achosi i asthma ei ferch waethygu, a bod agosatrwydd y safle i'w hysgol yn peri gofid iddo.

Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru ei fod yn teimlo mai'r "unig ffordd o ddianc rhag hyn ydi symud t欧".

"Rydym ni mewn pant yn fan hyn, lle mae'r llygredd yn cyrraedd ac yn aros".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Bethan Sayed fod Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r llosgydd yn gyfangwbl

'Eironig'

Mae'r AC Bethan Sayed yn beirniadu'r llywodraeth am beidio 芒 galw'r cais i mewn.

"Mae'n eironig bod Llywodraeth Cymru wedi datgan bod 'na argyfwng hinsawdd ac mae'r llosgydd yma yn mynd i fod yn llosgi pethau sy'n gallu cael eu hailgylchu", meddai.

Dywedodd y Llywodraeth eu bod wedi "ystyried y cais cynllunio yn fanwl" ond bod galw'r cais i mewn ddim yn angenrheidiol.

'Derbyniol mewn egwyddor'

Mae adroddiad swyddogion cynllunio yn dweud bod y cynnig yn "dderbyniol mewn egwyddor, gan ei fod o fewn ardal fasnachol a diwydiannol".

Maen nhw'n nodi na fyddai'r llosgydd yn "cael effaith ar iechyd dynol, nac chwaith yn cael effaith amgylcheddol difrifol".

Ond cafodd "pryderon arwyddocaol" eu codi am ansawdd yr aer a'r effaith ar iechyd, yn 么l y swyddogion.

Er gwaethaf hynny, maen nhw'n dweud bod y bwrdd iechyd lleol ac isadran rheoli llygredd Cyngor Abertawe wedi dweud na fyddai'r llosgwr yn cael "effaith nodweddiadol" ar y materion hynny.