大象传媒

Dull newydd o asesu ysgolion o ran darpariaeth y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
athrawon

Mae Llywodraeth Cymru am gael dull newydd o gategoreiddio ysgolion o ran eu natur ieithyddol er mwyn "cefnogi ymhellach y gwaith o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog".

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams fod angen edrych o'r newydd ar natur ieithyddol ysgolion gan nad oedd hyn wedi ei ystyried ers 10 mlynedd.

Bydd Meirion Prys Jones, cyn br卯f weithredwr Bwrdd yr Iaith, yn arwain prosiect ymchwil i adolygu'r diffiniadau presennol o ysgolion yng Nghymru.

Mewn ymateb ysgrifenedig i'r Senedd dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg mai'r bwriad yw cynnal cyfnod ymgynghori ar ddull newydd o gategoreiddio ysgolion yn yr hydref, a chyflwyno cynnig terfynol erbyn Rhagfyr 2019.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meirion Prys Jones fydd yn arwain y prosiect ymchwil

Dywed Ms Williams ei bod wedi penderfynu ar y camau newydd o ganlyniad i adroddiad ar gasgliadau Adolygiad Brys gan Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts.

Ychwanegodd Ms Williams: "Rwy'n sicr y bydd y rheoliadau diwygiedig arfaethedig, a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mai, yn gwella'r broses o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.

"Yn ystod gwaith y Bwrdd Cynghori, daeth yn eglur bod angen edrych o'r newydd ar y ffordd y caiff ysgolion eu categoreiddio yn 么l eu natur ieithyddol a darpariaeth iaith gan nad oedd hyn wedi'i ystyried ers dros 10 mlynedd.

"Cytunwyd y dylid gwneud hyn yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd."