Ffoaduriaid Casnewydd yn dysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae gr诺p o fenywod yng Nghasnewydd, sy'n ffoaduriaid, wedi penderfynu dysgu Cymraeg er mwyn ceisio datblygu eu dealltwriaeth o iaith a diwylliant eu cartref newydd.
Y Groes Goch Brydeinig sydd wedi trefnu'r gwersi, a hynny ar gais y menywod sy'n ffoaduriaid neu sydd wedi dod i'r ddinas yn ceisio lloches.
Yn 么l yr elusen dywedodd rhai o'r merched a oedd yn cymryd dosbarthiadau Saesneg gyda'r Groes Goch y llynedd bod ganddyn nhw hefyd ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg.
Dechreuodd y cwrs 10 wythnos ym mis Chwefror, ac mae'r gwersi yn cynnwys cyflwyniad i ymadroddion Cymraeg sylfaenol, a hanes a diwylliant Cymru.
"Mae fy mab yn dysgu caneuon Cymraeg yn y feithrinfa ac roeddwn i eisiau ei ddeall", meddai Dong Mei, un o'r dysgwyr.
"Yn y dosbarth rydym i gyd yn dod o wahanol wledydd," meddai, "ac rydym i gyd yn ddysgwyr newydd, felly rydym ar yr un lefel.
"Gallaf nawr siarad rhai geiriau ac ymadroddion gan gynnwys rhifau, dyddiau a misoedd.
"Gallaf hefyd ddweud cyflwyniadau a chyfarchion fel "Bore da", "Sut mae" a "Sut wyt ti?"
Dywedodd Theresa Mgadzah Jones, Cydlynydd Gwasanaeth Cymorth i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn y Groes Goch Brydeinig yng Nghymru: "Fe wnes i drefnu ymweliad 芒'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd fel y gallai'r menywod brofi diwylliant Cymru ar waith.
"Fe wnes i hefyd drefnu diwrnod blasu Cymraeg, a oedd yn rhan o brosiect grant Cymraeg i Oedolion Gwent, Menter Iaith Casnewydd, SEWREC a Chyngor Dinas Casnewydd. "
"Denodd y diwrnod blasu lawer o ddiddordeb, ac o ganlyniad buom yn cydweithio 芒 Dysgu Cymraeg Gwent i gefnogi a chyflwyno cwrs blasu o'r enw Cwrs Blasu Cymraeg.
"Darparodd Dysgu Cymraeg Gwent diwtoriaid i Groes Goch Prydain i gynnal dwy sesiwn y cwrs yr wythnos, ynghyd 芒 chyllid ar gyfer cyfleusterau creche i gefnogi mamau 芒 phlant ifanc yn ystod y gwersi."
Dywedodd Xiaoling Zhao, dysgwr arall o Gymru: "Roeddwn i eisiau dysgu Cymraeg oherwydd bod yr iaith ym mhobman.
"Rwy'n falch iawn bod fy mhlant yn gallu siarad Cymraeg ac roeddwn i eisiau deall yr hyn maen nhw'n ei ddweud.
Taclo unigrwydd mamau ifanc
"Rwy'n teimlo fel bod Cymru yn sefyll allan oherwydd y Gymraeg: mae ganddi ei hiaith, ei hanes ei hun a'i stori ei hun.
"Erbyn hyn rwy'n teimlo fel cynrychiolydd o Gymru. "
Dywedodd Mrs Jones: "Mae gan lawer o'r merched deuluoedd ifanc, ac mae'r gwersi yn eu galluogi i helpu eu plant gyda gwaith cartref Cymraeg. "
"Mae'r dosbarthiadau hefyd wedi rhoi cyfle i'r merched gwrdd 芒 phobl newydd, sy'n mynd i'r afael 芒 materion unigrwydd ac arwahanrwydd a brofir yn aml gan famau ifanc a phobl a gyrhaeddodd wlad newydd yn ddiweddar."
Gobaith yr elusen ydy y bydd y cynllun yn ehangu ymhellach yn y dyfodol agos, ac mae'r gwahanol asiantaethau am geisio denu grantiau er mwyn caniat谩u i'r menywod fedru dilyn cyrsiau ffurfiol i wella eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
Dywedodd Debbie Knott, Cydlynydd Datblygu a Chefnogi Casnewydd a Sir Fynwy ar gyfer Dysgu Cymraeg Gwent: "Mae'r merched wedi gweithio mor galed, maent yn frwdfrydig iawn, ac wedi bod yn bleser i'w haddysgu."