大象传媒

Tri AC yn cerdded allan yn ystod araith Mark Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gerddodd tri AC Ceidwadol allan yn ystod araith Mark Drakeford

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cael ei gyhuddo o droi araith yn nodi 20fed pen-blwydd datganoli yn "rant pleidiol, gwleidyddol".

Cerddodd tri AC Ceidwadol allan o siambr y Senedd mewn protest yn ystod araith Mark Drakeford.

Roedd yn edrych yn 么l ar rai o'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau yn ystod yr 20 mlynedd ers etholiadau cyntaf y Cynulliad.

Mae Mr Drakeford wedi amddiffyn ei araith gan ddweud ei fod yn adlewyrchu'r ffeithiau.

Ni chafodd arweinwyr y gwrthbleidiau gyfle i ymateb i sylwadau Mr Drakeford, a oedd yn beio llymder am niweidio "ffabrig ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymdeithas".

Fe wnaeth yr ACau Tor茂aidd Janet Finch-Saunders, Mark Reckless a Darren Millar adael y siambr.

Dywedodd Mr Reckless fod yr araith wedi dechrau'n dda, ond ei fod wedi troi'n "rant gwleidyddol".

"Roedd yn rhaid iddo siarad dros y genedl ac ar ran y sefydliad, nid am ei fuddiannau pleidiol cul," meddai.

"Roeddwn i'n meddwl bod hynny'n siomedig iawn a doeddwn i ddim eisiau clywed mwy ohono."

'Trist'

Yn ei araith, dywedodd Mr Drakeford bod gweld y Cynulliad yn aeddfedu yn senedd ddeddfu a'r gwelliant yn lefelau gweithgarwch economaidd ers 1999 yn "syndod pleserus".

Soniodd hefyd am y cynnydd yn nifer y banciau bwyd a'r cynnydd mewn digartrefedd.

"Ni allem fod wedi rhagweld yr effaith y byddai degawd o galedi wedi'i chael ar adeiladwaith ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymdeithas, ond rwy'n credu y byddem wedi cael ein synnu o feddwl y byddem wedi gorfod ei wynebu cyn i ni droi'n 20 oed," ychwanegodd.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, ei fod yn "drist" bod y prif weinidog wedi dewis defnyddio'r "garreg filltir" i wneud "darllediad pleidiol gwleidyddol".

"Roedd heddiw i fod i adlewyrchu 20 mlynedd cyntaf datganoli," ychwanegodd.

"Yn lle hynny, penderfynodd y prif weinidog wneud darllediad pleidiol gwleidyddol, pan na chafodd arweinwyr y pleidiau eraill gyfle i siarad."

'Adlewyrchu ffeithiau'

Dywedodd Mr Drakeford ei fod "yn sicr" ddim yn meddwl bod t么n ei araith yn anghywir, a'i fod yn adlewyrchu bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn crebachu ers 2010.

"Mae hynny'n ffaith," meddai ddydd Mercher.

"Dwi wedi clywed araith ar 么l araith gan rai o'r aelodau benderfynodd beidio aros yn esbonio pam eu bod yn meddwl bod hyn [polisi llymder] yn angenrheidiol - bod cyllidebau'r llywodraeth angen hyn.

"Roeddwn i'n syml yn adlewyrchu ffeithiau'r polisi yng nghyd-destun Cymru."