大象传媒

Bylchau mewn rota meddygon yn 'gyson ac aml'

  • Cyhoeddwyd
MeddygFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o feddygon ymgynghorol yn cyflawni swyddi is er mwyn llenwi bylchau yn y rota

Mae dros ddau draean o feddygon iau yn dweud bod bylchau "cyson ac aml" i'r rota ble maen nhw'n gweithio, yn 么l Coleg Brenhinol y Meddygon (CBM).

Dywedodd y corff bod traean y swyddi meddygon ymgynghorol sy'n cael eu hysbysebu yn aros yn wag, a bod absenoldeb oherwydd salwch hefyd ar gynnydd.

Yn 么l dirprwy lywydd y coleg yng Nghymru, Dr Gareth Llewelyn, mae'n cael effaith ar safon gofal cleifion a llwyth gwaith meddygon eraill, ac mae'n broblem "sydd angen ei datrys".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "buddsoddi mwy nag erioed" mewn hyfforddiant i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

'Staff wedi'u hymestyn i'r eithaf'

Mae CBM, sy'n cynrychioli 1,300 o feddygon yng Nghymru, yn gwneud 16 argymhelliad am welliannau, gan ddweud bod ysbytai Cymru'n "brin o staff ac wedi'u hymestyn i'r eithaf".

Rhwng 2007 a 2017 fe wnaeth nifer y swyddi meddygon ymgynghorol yng Nghymru gynyddu 70% o 409 i 694, ond yn 2018 ni lwyddwyd i lenwi traean o'r swyddi hynny gafodd eu hysbysebu.

Dywedodd y coleg bod mwy na thraean o feddygon ymgynghorol wedi cyflawni swyddi is er mwyn llenwi bylchau yn y rota.

Mae'r CBM yn dweud bod:

  • 70% o gofrestrwyr meddygol yn adrodd bylchau yn y rota ble maen nhw'n gweithio;

  • 63% o feddygon iau yn llenwi bylchau yn y rota yn wythnosol neu'n fisol;

  • 60% o feddygon ymgynghorol yn wynebu bylchau aml yn eu timau;

  • 74% o feddygon ymgynghorol yn gweithio'n hwyr ac ar benwythnosau.

'Bron yn beryg'

Dywedodd Dr Gwenno Edwards - cofrestrydd yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor - bod lefelau staffio meddygon yn achosi problemau.

"Mae hi'n gallu bod mor brysur lle mae hi bron yn beryg, yn enwedig pan mae pobl i ffwrdd yn s芒l," meddai.

"Os oes 'na lot fawr o gleifion s芒l yn yr ysbyty, a doctor i ffwrdd yn s芒l, yna mae'n gallu mynd yn broblem fawr.

"Mae'n anodd wedyn ffeindio rhywun i gyfro'r sifft wag honno."

Disgrifiad,

Dywedodd Dr Gwenno Edwards bod lefelau staffio meddygon "bron yn beryg" ar adegau

Ychwanegodd bod ceisio cael amser i ffwrdd ar fyr rybudd yn aml yn gallu bod yn broblem.

"Pan nes i ddechrau yn Ysbyty Gwynedd o'n i i fod yn gweithio noson fy mhriodas, ac roedd hi'n dipyn o straen sortio hynny," meddai.

"Dwi wedi clywed am bobl yn cael trafferthion mawr mynd i angladdau neu briodasau pwysig, a dydy o ddim yn iawn fod pobl yn gorfod rhoi eu swydd o flaen eu bywyd.

"Mae 'na ebyst bron yn ddyddiol yn gofyn i ni lenwi bylchau yn y rota.

"Mae'n straen meddwl i feddygon - dydych chi ddim yn licio gadael y doctoriaid eraill heb help, felly mae bron yn teimlo fel eich bod chi'n gorfod gweithio'r sifft."

Fe wnaeth y coleg hefyd ddarganfod:

  • Er bod nifer y disgyblion o Gymru sy'n gwneud cais i astudio meddygaeth yng Nghaerdydd ac Abertawe ar gynnydd, mae angen gwneud mwy i hyrwyddo'r maes i blant o bob cefndir a phob ardal;

  • Lleoliad yw'r ffactor pwysicaf o lawer pan fo meddygon iau yn ystyried eu hopsiynau tymor hir o ran gyrfa, ac mae'n "hanfodol bod mwy yn cael ei wneud i annog" meddygon i ddod i Gymru;

  • Mae angen i GIG Cymru wneud pethau'n wahanol o ran recriwtio, gan fod swyddi'n cael eu hysbysebu heb lwyddiant yn "rhy aml";

  • Bod diffyg manylion yng nghynllun 拢100m trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru, gafodd ei lansio bron i flwyddyn yn 么l, gyda diffyg gwybodaeth am ble mae'r arian yn cael ei wario;

  • Ar 么l bylchau yn y rota, y pryder mwyaf i feddygon yw bod cleifion sy'n ddigon iach i adael yr ysbyty ddim yn gallu gwneud hynny oherwydd diffyg argaeledd gofal cymdeithasol i symud y cleifion adref neu i'w cymuned.

Buddsoddi 'mwy nag erioed'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni nawr yn buddsoddi mwy nag erioed mewn hyfforddiant ac addysg i GIG Cymru ac mae gennym fwy o lefydd hyfforddi nag erioed.

"Mae ein hymgyrch marchnata cenedlaethol a rhyngwladol 'Gwlad. Gwlad - Hyfforddi, Gweithio, Byw' yn denu meddygon newydd i Gymru.

"Rydyn ni hefyd wedi comisiynu Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu strategaeth gweithlu newydd ar gyfer y DID erbyn diwedd y flwyddyn nesaf."