大象传媒

Bandiau Cymraeg i gigio mewn dinasoedd dros y ffin

  • Cyhoeddwyd
AdwaithFfynhonnell y llun, Pyst
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Adwaith eisoes wedi bod ar daith gyda Gwenno a Joy Formidable

Bydd artistiaid o Gymru yn mynd ar daith o amgylch dinasoedd yn Lloegr a'r Alban dros gyfnod o dri mis mewn ymgais i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg y tu allan i Gymru.

Mellt, Papur Wal ac Adwaith ydy'r cyntaf o'r artistiaid i deithio i Glasgow, Manceinion a Llundain.

Mae'r peilot yn rhan o waith cwmni hyrwyddo Pyst, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a rhai o brif hyrwyddwyr y dinasoedd.

Dywedodd Pyst eu bod yn gobeithio manteisio ar hyrwyddwyr lleol i gyflwyno'r bandiau i "gynulleidfaoedd newydd".

Ffynhonnell y llun, Pyst
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ianto o Papur Wal yn edrych ymlaen at chwarae mewn gofod "fel Yes ym Manceinion"

'Uno miwsig yng Nghymru'

Bydd y teithiau yn cymryd lle dros fisoedd Medi, Hydref a Thachwedd, a bydd naw artist Cymraeg yn rhan o'r teithiau.

Glasgow fydd man cychwyn y daith gyntaf, gyda'r tri artist yn chwarae yn y Poetry Club ar 4 Medi.

Fe fyddan nhw'n symud ymlaen wedyn i Yes ym Manceinion a'r Victoria yn Dalston, Llundain ar 5 a 6 Medi.

Un fydd yn mynd ar daith yw Ianto Gruffydd o'r band Papur Wal, sydd newydd ryddhau eu EP cyntaf 'Lle yn y Byd Mae Hyn?'

"Mae'n rili da bod 'na daith fel hyn yn arddangos cerddoriaeth Cymraeg, a dwi'n teimlo, bandiau sydd efallai efo'r potensial i apelio i gynulleidfaoedd tu hwnt i Gymru," meddai.

"Mae Pyst yn 'neud gwaith gr锚t er mwyn uno miwsig yng Nghymru. Cyn hynny, yn amlwg o'dd o jest yn labeli yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn ffordd, ond efo Pyst mae gen ti ryw fath o middle man swyddogol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mellt oedd enillwyr Gwobr Albym Gymraeg y Flwyddyn 2018

Sefydlwyd Pyst dros flwyddyn yn 么l fel cwmni dosbarthu a hyrwyddo digidol cyntaf Cymru a bellach mae'r cwmni yn dosbarthu cynnyrch amryw o labeli o Gymru.

Mae sefydlu cysylltiadau gyda hyrwyddwyr lleol yn allweddol i lwyddiant y teithiau, yn 么l Pyst.

Dywedodd Ffion Strong, sy'n arwain y prosiect, mai ei nod yw "gweithio ar gynlluniau marchnata gyda'r hyrwyddwyr lleol fel bod yr artistiaid yn cael budd o chwarae yn y dinasoedd a datblygu cynulleidfa ehangach."

"Ar yr un pryd rwy'n hyderus y bydd y nosweithiau yn cyflwyno i gynulleidfaoedd newydd, yn ogystal 芒 thri o hyrwyddwyr gorau Lloegr a'r Alban, cyfoeth ac amrywiaeth cerddoriaeth Gymraeg cyfoes," meddai.

Bydd manylion am deithiau Hydref a Thachwedd yn cael eu rhyddhau yn fuan.