大象传媒

Cloc y Stiwt yn taro deuddeg wedi 12 mlynedd ddistaw

  • Cyhoeddwyd
Cloc y StiwtFfynhonnell y llun, Rhys Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cloc y Stiwt yn Rhosllannerchrugog wedi bod yn fud ers 12 mlynedd

Daeth degau o bobl i adeilad hanesyddol ger Wrecsam brynhawn Gwener i glywed cloc yn canu am y tro cynta' ers mwy na degawd.

Mae cloc y Stiwt yn Rhosllannerchrugog wedi cael ei adfer fel rhan o wariant o 拢100,000 ar yr adeilad, a gafodd ei godi ar gyfer glowyr lleol.

Cafodd mecanwaith y cloc ei droi ymlaen gan blant o ysgolion lleol a gododd arian i adfer y cloc.

"Gan fod y teulu i gyd yn goliers (colliers), mae'r Stiwt yn golygu popeth," meddai Eirian Buck o'r Ponciau, a oedd yn y digwyddiad.

"Dyma'r lle oedden ni'n dod i'r pictiwrs ar nos Wener, roedd y reading rooms yma... roedd billiards a draffts a phopeth.

"Ac o glywed y cloc yn mynd eto, o'n i bron mewn dagre'."

Cloc canolfan y Stiwt oedd yn arfer deffro glowyr yr ardal ar gyfer eu shifftiau ym mhwll glo'r Hafod gerllaw.

Ond fe stopiodd ganu tua 2007, a'r llynedd apeliodd y ganolfan am 拢10,000 i'w adfer.

Yn y diwedd, casglwyd dros 拢100,000 i adnewyddu'r cloc yn ogystal 芒 blaen yr adeilad.

Ffynhonnell y llun, Rhys Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwyddodd ap锚l y Stiwt godi 拢22,000 - llawer mwy na'r nod gwreiddiol o 拢10,000

Cyn codi adeilad y Stiwt yn 1926, mae'n debyg bod dyn lleol yn arfer cnocio ar ddrysau tai'r glowyr i'w deffro ar ddechrau'r diwrnod gwaith.

Ond gyda'r sefydliad ar ei thraed, y cloc a'i bedwar wyneb oedd yn gwneud y gwaith hwnnw.

Pan gaeodd pwll glo'r Hafod yn 1968, fe barhaodd y cloc i ganu, gan gael ei weindio 芒 llaw tan ddechrau'r 1990au.

Ond stopiodd ganu tua 2007, er nad ydy rheolwyr y Stiwt yn si诺r pam. Y llynedd fe benderfynon nhw geisio adfer y cloc.

"Cychwynnodd Ap锚l Cloc y Stiwt yn 2018," meddai Rhys Davies, y rheolwr.

"Be' oedd o oedd 50 mlynedd ers i bwll yr Hafod gau. Y pwll ydy'r unig reswm bod y Stiwt yma.

"Ac roedd lot yn gofyn ar y we a social media pam bod y cloc ddim yn canu."

'Popeth yn newid'

Y nod gwreiddiol oedd codi 拢10,000, wedi i Gyngor Cymuned Rhosllannerchrugog addo 拢2,500. Ond fe gododd yr ap锚l dros 拢22,000.

"Ddaru popeth newid i ni, mewn ffordd, roedd ganddo ni lot mwy o bres nag oeddan ni'n disgwyl," meddai Mr Davies.

Cynyddodd y gronfa ymhellach gyda chyfraniad o 拢50,000 gan Cadw a 拢25,000 gan Gyngor Bwrdeistref Wrecsam, aeth y Stiwt ati i adnewyddu blaen yr adeilad ynghyd 芒'r cloc.

Mae'r gwaith hwnnw wedi dod i ben yn yr wythnosau diwethaf, a bydd y cloc yn canu eto am 14:00 ddydd Gwener, gan ddod 芒 s诺n cyfarwydd yn 么l i ardal y Rhos.