大象传媒

Saethu bwa croes: Dyn wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd teulu Gerald Corrigan wedi'r ymosodiad eu bod nhw'n ceisio dod i delerau 芒'r digwyddiad "dychrynllyd"

Bu farw dyn o Ynys M么n yn dilyn digwyddiad pan gafodd ei saethu gan fwa croes ym mis Ebrill.

Yn 么l yr heddlu roedd Gerald Corrigan, 74, yn trwsio lloeren deledu y tu allan i'w gartref ger Caergybi pan gafodd ei saethu.

Cafodd Mr Corrigan ei gludo i Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke gydag anafiadau difrifol wedi'r digwyddiad.

Mewn datganiad dywedodd heddlu'r gogledd: "Er gwaethaf ymdrechion gorau staff meddygol a fu'n trin Gerald Corrigan, bu farw dydd Sadwrn o ganlyniad i anafiadau erchyll ar 么l cael ei saethu gan fwa croes y tu allan i'w gartref yn gynnar ar fore Gwener Ebrill 19."

Dywedodd y ditectif sydd yn arwain yr ymchwiliad, Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney: "Mae hyn yn achos dychrynllyd ac rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Mr Corrigan yn ystod y cyfnod trist yma.

"Mae ei deulu yn parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol."

"Sioc i'r gymuned"

Cadarnhaodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i'r diwgyddiad ac maen nhw wedi gofyn unwaith eto am gymorth gan unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth ynglyn 芒'r digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ei fod yn ddiwrnod trist iawn i'r teulu: "Heb os mae wedi bod yn sioc i'r gymuned. Mae'n ardal braf, bydd pobl mewn sioc."

"Mae'n ardal mor dawel, mae hyn yn gwneud i chi feddwl beth sy'n digwydd?"

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr heddlu bod Mr Corrigan yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu