Y Brexit Party yn ffurfio gr诺p newydd yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Brexit Party wedi cyhoeddi eu bod wedi gwneud cais i ffurfio gr诺p gwleidyddol newydd yn y Cynulliad.
Fe gafodd y pedwar aelod, Mark Reckless, Mandy Jones, Caroline Jones a David Rowlands, eu cyfarch gan Nigel Farage y tu allan i adeilad y Senedd fore Mercher.
Mewn llythyr at Lywydd y Cynulliad mae'r pedwar yn dweud eu bod am i Mr Reckless arwain y gr诺p, gyda Caroline Jones fel trefnydd busnes a David Rowlands yn parhau fel comisiynydd.
Dywedodd Mr Farage bod hyn yn arwydd o "gefnogwyr yr ymgyrch i adael yr UE i gyd yn dod at ei gilydd unwaith eto".
Mae'r Llywydd yn ystyried y cais.
Bydd Mr Farage yn cymryd rhan mewn rali ym Merthyr Tudful nos Fercher fel rhan o ymgyrch y Brexit Party yn yr etholiad Ewropeaidd.
Roedd sibrydion y byddai gr诺p o'r fath yn cael ei ffurfio ar 么l i'r cyn-AC UKIP, Mark Reckless, gyhoeddi ei fod yn gadael gr诺p y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ddydd Mawrth.
Wrth siarad y tu allan i'r Senedd, dywedodd Mr Reckless bod "democratiaeth yn cael ei rwystro".
"Mae Brexit yn cael ei rwystro, ac o hyn ymlaen bydd gr诺p y Brexit Party yn y Cynulliad yn helpu i gefnogi Nigel Farage a'i blaid gyda phopeth y maen nhw'n ei wneud i amddiffyn ein democratiaeth a sicrhau ein bod ni'n gadael yr UE."
Beth yw gr诺p yn y Cynulliad?
Yn gyffredinol mae ACau yn aelodau o gr诺p y blaid y maen nhw yn ei gynrychioli.
Mae cael gr诺p yn golygu bod hawl i siarad am gyfnodau hirach yn y siambr yn ogystal 芒 derbyn mwy o gyllideb i gyflogi staff.
Mae'n rhaid cael o leiaf tri AC er mwyn ffurfio gr诺p yn y Cynulliad.
Pedwar gr诺p sydd yn y Cynulliad ar hyn o bryd - Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac UKIP.
Er ei fod yn aelod o'r gr诺p yn y Cynulliad, doedd Mr Reckless ddim wedi bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol ers iddo adael yn 2014.
Roedd Mr Rowlands yn un o'r tri AC oedd yn rhan o gr诺p UKIP yn y Cynulliad, ac mae ei ymadawiad o'r sefydliad hwnnw yn golygu mai dyma fydd diwedd gr诺p UKIP yn y Cynulliad.
Dywedodd Mr Rowlands ei fod yn benderfyniad "anodd iawn" i adael UKIP, ond ei fod yn teimlo'n "anfodlon" gyda'r hyn oedd yn digwydd gyda'r blaid ers tro.
Wrth ymateb i'r ymadawiad, dywedodd aelod o UKIP Cymru, Gareth Bennett AC, bod gweld Mr Rowlands yn gadael yn "siomedig".
Mae Mandy Jones a Caroline Jones yn gyn-aelodau o UKIP ond yn bellach yn sefyll fel aelodau annibynnol.
'Ystyried y mater'
Fe wnaeth y Llywydd gadarnhau ei bod wedi derbyn y cais yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.
"Dymunaf hysbysu'r Cynulliad fy mod i wedi derbyn llythyr gan bedwar o aelodau yn fy hysbysu o'u dymuniad i ffurfio gr诺p yn unol 芒 Rheolau Sefydlog 1.3," meddai Elin Jones.
"Rwyf yn ystyried y mater yn unol 芒 fy nyletswyddau o dan y Rheolau Sefydlog. Mi fyddaf yn hysbysu'r Cynulliad o fy nghasgliadau yn y man."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2019
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019