Pleidlais i bobl 16 oed yn etholiadau'r DU yn 'anochel'
- Cyhoeddwyd
Mae rhoi'r hawl i bobl 16 oed bleidleisio mewn etholiadau yn "anochel" er nad oes unrhyw gefnogaeth amlwg iddo ymysg y cyhoedd, yn 么l academydd.
Dywedodd yr Athro Philip Cowley wrth raglen Sunday Politics Wales bod tystiolaeth yn awgrymu bod pobl 16 ac 17 oed yn llai tebygol o bleidleisio na phobl h欧n, oni bai fod ymgyrch benodol yn eu targedu.
Mae mesur yn cael ei ystyried yn y Senedd ar hyn o bryd fyddai'n gweld yr oedran pleidleisio yn gostwng erbyn yr Etholiad Cynulliad nesaf yn 2021.
Ychwanegodd yr Athro Cowley y byddai angen defnyddio adnoddau sylweddol i gael pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses, a byddai'r newid hefyd yn arwain at leihau'r ganran sy'n pleidleisio.
Mae cadeirydd y panel arbenigol oedd yn gyfrifol am argymell y mesur, yr Athro Laura MacAllister, yn credu bod etholiadau yn Yr Alban yn awgrymu bod potensial i gael pobl ifanc i ymwneud 芒 gwleidyddiaeth.
Cafodd pobl 16 ac 17 oed bleidleisio am y tro cyntaf yn ystod refferendwm annibyniaeth Yr Alban yn 2014, ac erbyn hyn mae'r hawl gan bobl ifanc i bleidleisio mewn etholiadau Seneddol yn Yr Alban, Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw.
Ond mae'r Athro Cowley wedi ysgrifennu at y Cynulliad yn dweud bod tystiolaeth o wledydd eraill yn awgrymu y byddai newid yr oedran pleidleisio yn lleihau'r ganran o bobl sy'n cymryd rhan.
"Os yw pobl ifanc yn barod i bleidleisio, yna ni ddylwn ni orfod defnyddio adnoddau arbennig er mwyn eu hannog i wneud hynny. Mae'r ffaith ein bod ni'n gorfod yn dangos nad ydyn nhw'n barod," meddai.
"Mae rhoi'r bleidlais i bobl 16 ar ei ffordd. Gallwch chi weld o'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, yr hyn sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban... bydd y pwysau wedyn yn tyfu mewn rhannau eraill o'r DU.
"Pan fydd hynny'n digwydd, dwi ddim yn meddwl y gwelwn ni'r manteision sy'n cael eu trafod yn dod i'r golwg... ond mae'r newid i'w weld yn anochel."
Ychwanegodd yr Athro MacAllister y byddai lleihau'r oedran pleidleisio yn "adfywio democratiaeth, yn enwedig os yw hynny'n cyd-fynd ag addysg wleidyddol drwy'r cwricwlwm ac mewn awyrgylch allgyrsiol".
"Gwyddwn fod cael pobl ifanc i ymwneud 芒 gwleidyddiaeth yn fwy tebygol tra'u bod nhw'n byw adref nac ydy hi pan maen nhw'n troi'n 18 ac yn dechrau ar gyfnodau llai sefydlog yn eu bywydau," meddai.
Dywedodd yr Athro MacAllister, cadeirydd y panel arbenigol, bod tystiolaeth o'r etholiadau lleol yn Yr Alban yn awgrymu bod nifer y bobl ifanc 16-18 oed a bleidleisiodd yn fwy o'i gymharu 芒'r rhai rhwng 18 a 25.
"Mae hynny i raddau yn dangos y potensial sydd yno i gael pobl ifanc i ymwneud a'r broses wleidyddol," meddai.
Bydd 大象传媒 Sunday Politics Wales yn cael ei ddangos ar 大象传媒 One Wales am 11:00 dydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2018