´óÏó´«Ã½

OCD: Brwydro'r 'bwli'

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ac mae Cymru Fyw wedi siarad â'r cynhyrchydd Luned Tonderai ynglŷn â'i mab Reuben a'i gyflwr anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) a'r effaith ar y teulu.

Mae Luned yn byw yn Llundain gyda'i gŵr, y cyflwynydd teledu Sean Fletcher, a'i phlant Lili, 21, a Reuben, 16. Dyma ei stori:

Ffynhonnell y llun, Luned Tonderai
Disgrifiad o’r llun,

Sean a Luned gyda'u plant, Reuben a Lili

Mae delio gyda OCD yn anodd iawn achos mae'n dod mewn i fywyd y teulu cyfan ac yn gwthio pawb i wahanol begwn. Mae'n cymryd drosodd y teulu i gyd yn y diwedd.

Roedd Reuben yn 12 mlwydd oed pan ddaeth yn amlwg fod problem. Roedd e'n ypsetio ynglŷn â gwneud gwaith ysgol yn gywir a bod popeth yn gorfod bod yn berffaith. Dechreuodd e ddeffro'n rili gynnar i gael ei fag ysgol yn barod ac 'oedd gwaith cartref yn mynd yn faich mawr er bod e'n fachgen deallus.

Roedd e'n ymddangos fel bod e'n gorboeni a dyna'r oll o'n i'n meddwl oedd y broblem.

Ond aeth y poeni yn fwy eithafol a doedd Reuben methu cyflawni pethau. Roedd e methu mynd i'r gwely heb ysgrifennu checklists a gwneud sawl peth a sylweddolais i fod e'n debyg i OCD.

Wnaeth therapydd gadarnhau hyn a chynghori ni i fynd at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) gan fod angen triniaeth arbenigol. Mae'r rhestr aros yn hir ac mae rhaid i blentyn fod tu hwnt o sâl.

Aros am help

Tra bod ni'n aros am apwyntiad, roedd Reuben yn mynd yn waeth ac yn waeth. Roedd e'n datod yn sydyn iawn, yn flinedig iawn trwy'r amser ac yn cael trafferth gwneud unrhyw beth. Roedd e'n stryglan i ddeffro yn y bore a pharatoi i fynd i'r ysgol.

Roeddet ti'n gweld y dirywiad yn ei lyfrau ysgol e. Roedd ei waith ysgol yn Ebrill yn berffaith ond ym mis Mai, roedd yr ysgrifen yn anniben a phethau wedi croesi mas.

Roedd e'n cael meddyliau ymwthiol (intrusive thoughts) - os chi'n gallu dychmygu bod yn stressed a chael panig, a meddwl pethau gwael fel bod ti'n mynd i gael y sack neu fod rhywun mynd i farw, dychmyga hwnna yn dy ben di trwy'r amser. Dyna be' mae OCD fel.

Mewn pobl heb OCD, mae dy ymennydd di'n ffiltero pethau allan ac yn rhoi pethau mewn i berspectif. Ond mewn person gyda OCD mae'r pethau yma yn aros yn dy feddwl di ac yn mynd rownd a rownd fel peiriant golchi.

Mae unrhyw ofnau yn gallu cymryd gafael a throi'n bethau mawr nes bod ti'n gweld hi'n anodd i gyflawni tasgau bob dydd a byw bywyd normal.

Roedd lot o bethau gwahanol yn mynd trwy meddwl Reuben ac roedd ei ofnau yn newid trwy'r amser. Un dydd roedd gwaith ysgol ynglŷn â hiliaeth. Daeth Reuben adref yn poeni ei fod wedi dweud rhywbeth hiliol a'i fod e'n hiliol. Mae'r ofnau yn mynd mor fawr yn dy feddwl nes dy fod yn colli perspectif ar beth sy'n wir.

Yn gaeth i'r tÅ·

Ar ôl cyfnod doedd Reuben ddim yn gallu mynd i'r ysgol na ysgrifennu. Roedd e'n cael trafferth gwisgo a gadael y tŷ. 'Nath hynny ddigwydd yn sydyn ac wnaeth e gyrraedd pwynt lle roedd rhaid i un o'r ddau ohonon ni fod adref gyda fe trwy'r amser.

Yn cydfynd gyda'r ofnau mae compulsions sef pethau mae person gyda OCD yn gorfod gwneud er mwyn teimlo'n well, fel tapio pethau neu cerdded mewn i'r ystafell dro ar ôl tro neu ailadrodd geiriau. Ac mae'r pethau hyn yn cymryd amser.

Roedd yn ofnadwy i weld Reuben fel 'na achos mae e o hyd wedi bod yn rhwydd iawn. Mae ganddo lot o ffrindiau ac mae'n fachgen rial annwyl, un sy'n poeni am bobl eraill. Roedd yn allrounder yn yr ysgol, popeth yn dod mor rhwydd iddo.

Dw i'n cofio jocan gyda Sean: "Gewn ni ddim problem gyda Reuben yn yr ysgol, mae e'n mynd i fod yn hawdd."

Ffynhonnell y llun, Luned Tonderai
Disgrifiad o’r llun,

Sean Fletcher tu allan i 10 Downing Street fel rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth iechyd meddwl

Euogrwydd

Fel rhiant ti'n teimlo mai dy fai di yw e. Mae'n anodd i weld dy blentyn yn dioddef, yn ofnus a bod ti'n methu helpu.

Hefyd ti'n meddwl 'ocê, allai ddatrys hwn, dw i angen rhoi mwy o gariad iddo. Fi yw'r fam a bydda' i'n gallu datrys hyn.'

Wedyn ti'n sylweddoli taw nid ti yw'r ateb. Mae OCD angen triniaeth arbennig.

Mae Sean yn disgrifio'r cyflwr fel bwli. Mae'r OCD yn lot mwy o ddylanwad ar dy blentyn di na beth wyt ti.

Triniaeth o'r diwedd

Mae CAMHS yn argymhell Therapi Ymddygiad Gwybyddol (Cognitive Behavioural Therapy), sy'n dysgu ti sut i ymdopi gyda OCD yn well. Dyw e ddim yn gweithio i bawb ac rooedd OCD Reuben yn eithafol ac angen triniaeth arbenigol felly cafon ni driniaeth yn y gwasanaeth OCD yn ysbyty'r Maudsley. Dim ond un canolfan felly sy' ym Mhrydain felly mae'n trin plant ar draws y wlad.

Erbyn hyn roedd Reuben mor sal, ac roedd 'na elfen o self harm. Oedd e'n inpatient yn ysbyty Maudsley am tua chwe mis ac maen nhw wedi dysgu strategaethau ymdopi iddo fe ac i ni.

Beth sy' 'di helpu Reuben mwya' yw cwrdd â phobl eraill sy' â OCD a siarad gyda nhw a deall bod pobl eraill yn cael meddyliau ymwthiol a sylweddoli 'nid fi yw'r unig un.'

Y newyddion rili da yw fod modd gwella. Pan mae pethau'n wael iawn, mae pobl yn anghofio hynny - ond mae 'na obaith.

Paid gadael iddo reoli dy fywyd di a galli di reoli dy OCD. Y peth mwya' yw fod eisiau codi ymwybyddiaeth a siarad amdano fe. Y peth gwaethaf yw cadw e'n gyfrinach.

Y dyfodol

Mae Reuben yn gwneud arholiadau TGAU ar hyn o bryd. Ni mor ddiolchgar bod e lot yn well a bod e'n eistedd arholiadau achos blwyddyn yn ôl bydden i byth wedi meddwl bydde fe'n ddigon da i wneud gan fod e wedi colli cymaint o ysgol am fod e môr sal.

Ni'n teimlo'n falch iawn.

Hefyd o ddiddordeb

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol