Erin Hughes: Yr her o fyw 芒 chyflwr difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae Eisteddfod Caerdydd a'r Fro 2019 yn nodi blwyddyn ers i enillydd coron yr Urdd 2018 fethu 芒 mynychu'r seremoni oherwydd salwch.
Mae Erin Hughes yn dioddef o Myasthenia Gravis - cyflwr hirdymor a phrin sy'n ei rhwystro rhag gwneud pethau sylfaenol fel gwenu, siarad ac agor ei llygaid.
Dywedodd Erin fod y cyflwr yn cael ei gyfeirio ato fel "rag-doll disease", gan ei fod yn achosi i'r corff deimlo fel nad ydy o dan reolaeth.
Ar 么l cyfnod cymharol sefydlog, mae cyflwr Erin wedi gwaethygu ers dechrau'r flwyddyn.
"Mae'r cyflwr yn effeithio ar bob dim mewn nifer o wahanol ffyrdd, ond i mi yn bersonol, yr effaith ar fy mywyd cymdeithasol yw un o'r pethau anoddaf i'w dderbyn," meddai.
"Os fyddwn i'n trio cynnal sgwrs, byddwn i'n cael trafferth siarad yn eglur a gwenu, a byddwn i hefyd yn cael trafferth cynnal fy mhen a chadw fy llygaid yn agored oherwydd y straen ar gyhyrau eraill fy wyneb.
"Gallwn ddechrau sgwrs yn gymharol sefydlog, ond wrth i fy nghyhyrau wanhau ac wrth i mi gael fy nharo gyda blinder llethol, dwi'n cael fy ngorfodi i stopio a gadael sgwrs ar ei hanner yn bur aml.
"Dydy hyn ddim yn gr锚t o ystyried pa mor bwysig ydy cymdeithasu drwy gydol gwaeledd i nadu fy iechyd meddwl rhag llithro, ond ar hyn o bryd, dwi'n ymdopi'n well 'efo'r ochr honno nag yr ydw i wedi gwneud ers tro."
Mae Erin ar fin gorffen ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, ond bu'n byw gartref eleni gan fod aros ym Mangor yn "gwbl amhosib".
"Roedd bywyd prifysgol a chyflwr difrifol nad oedd dan reolaeth lwyr yn gyfuniad peryg, ac mi gymerodd amser hir iawn i mi dderbyn hynny," meddai.
"Y prif reswm dros adael oedd bod fy system imiwnedd i'n wan iawn (canlyniad coctel o gyffuriau), a chan fod y brifysgol yn aml yn llawn afiechydon megis annwyd a'r bug, roedd hi'n ormod o risg oherwydd gall yr afiechyd lleiaf achosi'r blerwch mwyaf gyda fy nghyflwr, a golygu fy mod i'n gorfod dechrau o'r dechrau eto.
"Mater o raid oedd gadael Bangor felly; mater o orfod blaenoriaethu fy iechyd dros bob dim unwaith eto."
Rhannu straeon pobl ifanc
Fis Mehefin, bydd 'Byw yn fy Nghroen' yn cael ei chyhoeddi - cyfrol am bobl ifanc sy'n dioddef yn dawel o broblemau iechyd.
"Cyfrol ydy hi am brofiadau pobl ifainc dros Gymru benbaladr sydd wedi profi, neu'n parhau i brofi problemau gyda'u hiechyd, boed hynny'n gorfforol neu'n feddyliol," meddai Erin, fu'n golygu'r gyfrol.
"Mi fydd yna drafod epilepsi, clefyd siwgr, chronic fatigue, gorbryder, OCD ac ati - mae stori pawb yn unigryw yn ystyr orau'r gair.
"Mi fydda i'n trafod fy mhrofiad o fyw gyda Myasthenia Gravis am y tro cyntaf yma hefyd.
"Y nod ydy torri ar y tueddiad i gysylltu cyflyrau hirdymor gyda phobl h欧n yn unig, ac i drio diddymu'r stigma sydd yn gysylltiedig 芒 chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol fel ei gilydd."
Bwriad Erin ydy dilyn cwrs meistr Ysgrifennu Creadigol ym Mangor y flwyddyn nesaf, a'r gobaith yw y bydd triniaeth newydd yn galluogi iddi drechu'r cyflwr.
"Cefais wybod ddechrau'r wythnos hon fy mod i'n mynd i dderbyn y trwythiad cyntaf yr wythnos nesaf.
"Dwi'n ofni dweud dim byd ar hyn o bryd, ond gall y driniaeth hon newid fy mywyd yn llwyr.
"Wrth reswm, mae'n rhaid bod yn realistig hefyd a chofio bod siawns i'r driniaeth hon beidio 芒 gweithio o gwbl, ond ar ddiwedd y dydd, dwi'n meddwl fod bod yn obeithiol yn drech na bod yn realistig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018