Reckless: Byddai atal gr诺p Brexit Party yn 'gamgymeriad'
- Cyhoeddwyd
Byddai newid rheolau er mwyn atal cydnabyddiaeth swyddogol i'r Brexit Party yn y Cynulliad yn gamgymeriad, yn 么l arweinydd y gr诺p arfaethedig.
Mae pedwar o gyn-ACau UKIP yn gobeithio sefydlu gr诺p Brexit Party yn y Senedd.
Dywedodd Mark Reckless, fyddai'n arwain y gr诺p newydd, na ddylai'r pleidiau eraill "geisio ein cloi allan o'r broses ddemocrataidd" gan gyfeirio at berfformiad y blaid yn yr arolygon barn.
Yn 么l Plaid Cymru a Llafur does gan y gr诺p newydd ddim mandad democrataidd.
Adnoddau ychwanegol
Dydd Mercher fe wnaeth arweinydd y Brexit Party, Nigel Farage, ymweld 芒 Bae Caerdydd er mwyn cyhoeddi fod pedwar AC wedi ymuno 芒'i blaid, sef Mr Reckless, Caroline Jones, Mandy Jones a David Rowlands.
Pe bai'r pedwar yn cael cydnabyddiaeth fel gr诺p swyddogol byddai ganddyn nhw'r hawl i gael adnoddau ychwanegol, gan gynnwys staff a mwy o fewnbwn i fusnes y Senedd.
Byddai Mr Reckless, fel arweinydd y gr诺p, 芒'r hawl i dderbyn 拢17,969 yn ychwanegol i'r 拢67,649 mae'n ei gael fel AC.
Mae 大象传媒 Cymru yn deall fod o leiaf chwech AC am gynnig newid y rheolau i atal ACau rhestr ranbarthol rhag newid i bleidiau sydd 芒 dim cynrychiolaeth flaenorol yn y Cynulliad.
Yn 么l y Brexit Party, maen nhw wedi cydymffurfio 芒'r canllawiau angenrheidiol ar gyfer ffurfio gr诺p.
Dywedodd Mr Reckless: "Rydym yn disgwyl i'r rheolau gael eu hufuddhau a'u gweithredu yn y ffordd arferol."
Gan gyfeirio at arolwg barn yng Nghymru oedd yn awgrymu fod gan y blaid gefnogaeth 33% o etholwyr, dywedodd: "Rwy'n credu mai'r realiti mewn gwlad ddemocrataidd lle mae un o bob tri yn cefnogi plaid, yna ni allwn geisio gwahardd grwpiau gwleidyddol.
"Rwy'n credu ei bod yn iawn i mi gredu y bydd y Llywydd yn gwneud ei swydd yn y modd cywir, yn deg ac amhleidiol, wrth weithredu gorchmynion sefydlog a rheolau'r Cynulliad."
Mae disgwyl i unrhyw gais i newid y rheolau gael eu trafod ddydd Mawrth.
Mae Plaid Cymru wedi dweud na ddylai'r pedwar AC dan sylw "gael yr hawl i ffurfio gr诺p na mynediad i adnoddau a chyllido yn y Senedd".
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr y byddai ACau'r blaid yn rhoi "ystyriaeth fanwl i unrhyw newidiadau swyddogol unwaith eu bod yn cael eu cyflwyno".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2019
- Cyhoeddwyd16 Mai 2019
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019