大象传媒

D Ben Rees: 'Dim capeli Cymraeg erbyn 2050'

  • Cyhoeddwyd
Dr D Ben Rees
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn ol Dr D Ben Rees mae cymunedau yn brwydro i achub eu tafarndai nid eu capeli

Mae aelod blaenllaw o'r eglwys Bresbyteraidd yn rhagweld na fydd capeli Cymraeg neu ddwyieithog yn bodoli erbyn 2050.

Yn 么l y Parchedig Dr D Ben Rees o Lerpwl, mae 'na darged i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 - ond erbyn hynny, meddai, bydd pob un capel Cymraeg wedi cau.

Mewn erthygl i bapur newydd wythnosol yr Eglwys Bresbyteraidd, Y Goleuad, mae'r Parchedig Rees yn dweud: "Mae'n dristwch mawr i mi bod cymunedau diwylliedig yn gadael i'w capeli ddiflannu ond maen nhw'n ymladd yn galed i achub eu tafarndai, sydd wedi cyfrannu cyn lleied i'n cenedl.

"Rydym wedi colli cymaint o dir .....bydd y capeli sydd yn addoli trwy gyfrwng y Gymraeg wedi diflannu erbyn 2050.

"Rwy'n rhagweld sefyllfa yng Nghymru lle mae miliwn o siaradwyr Cymraeg ond dim un capel Cymraeg neu ddwyieithog ar 么l, dim capel Cymraeg yn ein prifddinas, dim capel Cymraeg yn Abertawe, Aberystwyth, Wrecsam, Lerpwl, Abergele neu Gaergybi."

Ymateb o Gaerdydd

Yng nghapel Cymraeg Salem yng Nghaerdydd roedd 'na ddehongliad gwahanol o'r sefyllfa.

Mewn ymateb i sylwadau Dr Rees dywedodd y Parchedig Evan Morgan wrth raglen Newyddion 9: "Dwi'n cydymdeimlo yn fawr - mae'n sefyllfa lle ni wedi cyrraedd rhyw ddibyn fel petai, ac mae lot o gapeli wedi mynd lawr, mae'r ystadegau yn profi hynny.

"Ond serch hynny mae 'na ganolfannau a chapeli sydd yn weithgar, sydd yn cynnig rhywbeth yn y gymuned ac mae'n bwysig iawn cofio hynny.

"Mae'n sefyllfa hynod o ddwys a difrifol ac eto mae llefydd yma fel Salem a nifer o gapeli yng Nghaerdydd, ac yn y gorllewin ac yn y gogledd lle mae lot fawr o weithgaredd."

"Gwastraffu talentau"

Yn 么l Dr Rees yn 2000 roedd gan yr Eglwys Bresbyteraidd 60,000 o aelodau ond erbyn hyn mae'r ffigwr wedi gostwng i 20,000 mewn 600 o eglwysi.

"Mae'n wir o bob o bob enwad ond mae anghydffurfwyr wedi gwastraffu talentau pobol allai ailgynnau'r eglwysi," meddai.

"Mae'r materion difrifol yma wedi gadael ein trafodaethau ac rydym wedi cyfarwyddo a gwrando ar bobl bwysig sydd yn siarad yn ddi-baid am iechyd a diogelwch, a'r angen i gwblhau ffurflenni cyn ymweld 芒 chleifion neu ddysgu plant mewn Ysgol Sul."

Cafodd Dr Rees ei gydnabod yn ddiweddar gan Gyngor Dinas Lerpwl am ei gyfraniad i'r gymdeithas Gymraeg yn Lerpwl.