大象传媒

Garddwr o F么n yn creu'r 'tomato Cymraeg' cyntaf erioed

  • Cyhoeddwyd
Medwyn Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Medwyn Williams greu'r tomato i "ddathlu llwyddiannau t卯m p锚l-droed Cymru"

Yng ng诺yl arddio'r RHS Chelsea Flower Show ddydd Llun, mae garddwr o Ynys M么n wedi datgelu ei waith o greu'r "tomato Cymraeg" cyntaf erioed.

Bwriad Medwyn Williams oedd creu tomato newydd i'w arddangos mewn sioeau, ond sydd hefyd yn "flasus ac yn dathlu llwyddiannau t卯m p锚l-droed Cymru".

Yn dilyn llwyddiant y t卯m ym mhencampwriaeth Euro 2016, roedd Mr Williams am dalu teyrnged i'r t卯m drwy wneud y cysylltiad rhwng ei domato newydd a Chymru.

Cafodd Mr Williams wybod fore Mawrth iddo ennill ei 12fed medal aur yn Chelsea, a hynny am arddangosfa o lysiau.

"Dwy flynedd yn 么l fe wnaethon ni roi'r enw Red Dragon ar y tomato," meddai wrth Cymru Fyw.

"Ond doedd y bobl oedd yn cofrestru llysiau newydd ddim yn licio'r enw yna, a ges i lythyr yn 么l yn gofyn be fyddwn i'n licio ei enwi fo eto.

"Dyma fi'n dweud efo tafod yn fy moch, Y Ddraig Goch, ac wrth gwrs mi dderbynion nhw hwnnw."

Yr enw Cymraeg cyntaf

Cyn belled ag y mae Mr Williams yn ei wybod, Y Ddraig Goch ydy'r enw Cymraeg cyntaf i gael ei gofrestru ar gyfer unrhyw ffrwyth neu lysieuyn.

Eglurodd ei fod wedi llwyddo i greu'r tomato newydd drwy groesi dau fath - Gold Starefo a Cedrico.

"Tydi o ddim 'di cael be' maen nhw'n alw'n genetic engineering," meddai.

"Mae hwn wedi cael ei groesi yn y ffordd draddodiadol o beillio o un planhigyn i'r llall."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y tomato newydd ei greu drwy groesi dau fath - Gold Starefo a Cedrico

Nid yw Mr Williams yn ddieithr i'r sioe yn Chelsea, gan ei fod eisoes wedi ennill 11 o fedalau aur yn y gorffennol, ond dyma'r tro cyntaf ers naw mlynedd iddo gystadlu.

Fe fydd y tomato'n cael ei gyflwyno i'r byd yn y sioe ddydd Llun, ac fe fydd gwesteion arddangosfa Mr Williams yn cynnwys aelodau o'r Teulu Brenhinol a'r gantores Cerys Matthews.

Ychwanegodd Mr Williams: "Dwi'n gobeithio y cawn ni lwyddiant yn Chelsea a bydd pobl yn prynu hadau'r Ddraig Goch, ac yn mynd 芒 nhw adref a'u tyfu nhw.

"Bydd 'na Ddraig Goch yn rhedeg ym mhob man drwy Brydain a'r byd i gyd gobeithio."