大象传媒

Bae Ceredigion: Gwaith cwmni ynni'n 'bygwth bywyd gwyllt'

  • Cyhoeddwyd
CeinewyddFfynhonnell y llun, Geograph/Steve Fareham
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ceinewydd ym Mae Ceredigion, sy'n gartref i nifer o ddolffiniaid

Mae cadwraethwyr yn poeni wedi i gwmni ynni rhyngwladol wneud cais i chwilio am olew a nwy oddi ar arfordir Cymru.

Mae Eni UK wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am ganiat芒d i ddechrau gwaith chwilio ym Mae Ceredigion.

Ond mae cadwraethwyr yn dweud y gallai'r gwaith hwnnw ladd mamaliaid ifanc yn yr ardal gadwraeth.

Bae Ceredigion sydd 芒'r nifer uchaf o ddolffiniaid preswyl yn y DU, ac mae'n gartref i filoedd o lamidyddion (porpoise) am gyfnod o'r flwyddyn.

Fe ddywedodd y llywodraeth nad yw'r cynllun wedi ei gymeradwyo eto, a'i fod yn destun asesiad pellach.

'Gwrthwynebu'n gryf'

Ym mis Mawrth, gwnaeth Eni UK gais am ganiat芒d i gynnal arolwg daearegol - sy'n cynnwys tanio tonnau swn uchel allan o wn tanddwr - "rywbryd rhwng" 1 Mehefin a 30 Medi.

Cafodd y cais ei baratoi gan Orbis Energy Ltd, sydd wedi cael cais am sylw.

Dywedodd elusen Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid ei bod yn "gwrthwynebu'r cynlluniau'n gryf".

Dywedodd Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) y llywodraeth fod y cynnig yn destun ymgynghoriad gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur.

Nid yw鈥檙 post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi fideo facebook gan 大象传媒 Cymru Fyw

Caniat谩u cynnwys Facebook?

Mae鈥檙 erthygl yma鈥檔 cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd fideo facebook gan 大象传媒 Cymru Fyw