大象传媒

Profiadau teuluoedd adran famolaeth Cwm Taf yn 'sioc'

  • Cyhoeddwyd
Allison WilliamsFfynhonnell y llun, Senedd.TV
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Allison Williams yn cael ei holi gan bwyllgor o Aelodau Cynulliad ddydd Iau

Daeth profiadau cleifion mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fel "sioc lwyr", yn 么l uwch d卯m rheoli'r bwrdd.

Mae gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles o dan fesurau arbennig yn dilyn adolygiad damniol.

Ers bore Iau, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yn holi penaethiaid y bwrdd iechyd, yn sgil galwadau am ymddiswyddiadau.

Dywedodd y prif weithredwr, Allison Williams mai dyma'r peth anoddaf iddi ddod ar ei draws yn ystod ei gyrfa.

'Dim esgusodion'

"Yr adroddiad i brofiadau cleifion - mae rhai o hanesion y teuluoedd yn dorcalonnus," meddai.

"Allwn ni ddim gwneud unrhyw esgusodion am hynny, roedd eu profiadau nhw'n annerbyniol ar bob math o lefelau.

"Mae'r ffaeleddau yn mynd yr holl ffordd drwy'r corff."

Daeth adolygiad gan ddau goleg brenhinol i'r casgliad fod gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf "dan bwysau eithriadol" ac yn "gamweithredol".

Yn 么l cadeirydd y bwrdd, yr Athro Marcus Longley, roedd y penaethiaid mewn "sioc" pan glywon nhw am y canfyddiadau ar lafar ym mis Ionawr gan d卯m adolygu'r colegau brenhinol.

"Mae angen adolygu sut rydym yn trin pobl sy'n codi materion gyda ni - nid ydym wedi gwneud hynny mewn unrhyw ffordd briodol," meddai'r Athro Longley.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mick Giannasi yn arwain panel annibynnol i oruchwylio gwelliannau yn yr adran famolaeth

Ychwanegodd Ms Williams: "I fod yn gwbl onest, roedd maint yr adborth gan famau yn sioc lwyr, hyd yn oed i mi."

Fe wrthododd Ms Williams - sydd wedi bod yn brif weithredwr ers 2011 - awgrym gan Helen Mary Jones AC, llefarydd iechyd Plaid Cymru, ei bod yn poeni fwy am niwed i enw da'r bwrdd iechyd.

Mae Mick Giannasi - sy'n arwain panel annibynnol i oruchwylio gwelliannau yn yr adran mamolaeth - eisoes wedi dweud na fydd yn oedi cyn awgrymu newidiadau person茅l os bydd angen.

Ond dywedodd yr Athro Longley y byddai hynny'n arwain at "betruster ac oedi, a dwi'n si诺r fod neb eisiau hynny".