'Diffyg eglurdeb' ar gynllun amgueddfa p锚l-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau am fwy o eglurdeb ar y cynlluniau i greu amgueddfa p锚l-droed Cymru yn Wrecsam.
Cafodd amgueddfa'r dref ei dewis fel lleoliad er waethaf ymgyrch i osod yr amgueddfa mewn adeilad newydd yng nghartref Clwb Wrecsam ar y Cae Ras.
Yn 么l un aelod cynulliad lleol, mae'r cynlluniau'n "aneglur" ac yn dangos diffyg uchelgais.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gobeithio dod i gytundeb ar y camau nesaf "cyn diwedd yr haf".
"Rwy'n falch eu bod wedi cyhoeddi y bydd yr amgueddfa yn Wrecsam oherwydd dyna le gwelsom dwf cyntaf y g锚m," meddai Phil Stead, awdur y llyfr Red Dragons: The Story of Welsh Football.
"Ond rwy'n siomedig y bydd yn estyniad o adeilad yr amgueddfa bresennol yn y dref, oherwydd mae'n adeilad eithaf hen ffasiwn a byddai wedi bod yn wych gweld rhywbeth newydd, pwrpasol yng nghysgod eisteddle'r Kop ar y Cae Ras.
"Rwy'n credu y dylem edrych yn fanylach ar y syniad yna."
Mae Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhuddo o fethu ag egluro'r cynlluniau'n ddigon manwl.
"Mae'r amlinelliad ychydig yn aneglur," meddai Mark Isherwood, AC Ceidwadol rhanbarth Gogledd Cymru.
Ble mae'r uchelgais?
"Mae angen amgueddfa b锚l-droed genedlaethol arnom sy'n cydnabod yr etifeddiaeth ryfeddol, hanesyddol a byw sydd gan Wrecsam.
"Amgueddfa Wrecsam sy'n cael ei ystyried fel y lleoliad - amgueddfa wych, ond ble mae'r uchelgais? Sut maen nhw'n mynd i lwyddo i gartrefu'r cyfan oll yn yr adeilad hwnnw?"
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl y byddai cynllun Amgueddfa Wrecsam yn "llwyddiannus", ond byddai'n gweithio gyda "phartneriaid allweddol" er mwyn symud y cynllun ymlaen.
"Mae cyfarfod hynod gadarnhaol eisoes wedi cael ei gynnal rhwng swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a swyddogion Llywodraeth Cymru," meddai llefarydd.
"Rydym nawr yn anelu at gadarnhau'r ffordd ymlaen i'r cynllun erbyn diwedd yr haf hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2016