Dod i adnabod y DJ Huw Stephens
- Cyhoeddwyd
Y DJ a'r cyflwynydd o Gaerdydd, Huw Stephens yw Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro ddydd Mawrth.
Dywedodd fod angen digwyddiadau fel yr Eisteddfod i bwysleisio bod y "Gymraeg yn perthyn i bawb".
Cychwynnodd ei yrfa fel cyflwynydd ar 大象传媒 Radio 1 - lle mae'n dal i gyflwyno - cyn mynd ymlaen i gyflwyno ar 大象传媒 Radio Cymru a Radio 6.
Gyda cherddoriaeth yn agos iawn at ei galon, diolchodd i'r Urdd am ei gyflwyno i fandiau ac artistiaid Cymraeg pan oedd yn ifanc.
Beth yw eich atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?
Roedd Aelwyd yr Urdd yng Nghaerdydd yn gymaint o hwyl. Roedd e'n dod 芒 phawb at ei gilydd, ac yn rhoi cyfleoedd i bawb wneud pethau arbennig.
Roedd mynd i Storey Arms yn brofiad, Ynys Enlli, ac wrth gwrs Glan-llyn a Llangrannog. Glan-llyn a Llangrannog yw'r peth gorau am fod yn yr ysgol yng Nghymru!
Fi'n cofio bod mewn disgo yng Nglan-llyn a chlywed Tracsiwt Gwyrdd am y tro cyntaf gan Geraint Jarman, a meddwl: "Waw - beth yw'r g芒n yma?"
Disgrifiwch y profiad o gystadlu yn yr Eisteddfod i berson o'r gofod
Fe wnes i gystadlu, ond meimio yng nghefn y c么r wnes i. Felly roedd e'n brofiad pleserus a hwylus dros ben!
Ydy'r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn eich bywyd proffesiynol?
Mae'r Urdd yn rhoi hyder i chi. Os ydych chi'n perfformio neu'n gwneud chwaraeon, mae hyder yn hollbwysig - y teimlad yna o sefyll lan a gorfod gwneud rhywbeth achos bod eraill yn dibynnu arnoch.
Rwy'n ddiolchgar am brofiadau gwerthfawr gyda'r Urdd a oedd o fudd i mi yn hwyrach ymlaen, fel sawl un arall.
Pa gystadleuaeth newydd hoffech chi weld yn rhan o'r Eisteddfod?
DJ'o!
Unrhyw awgrymiadau neu argymhellion ar gyfer y rheiny fydd yn ymweld 芒'r Eisteddfod ond sydd ddim yn gyfarwydd ag ardal Caerdydd a'r Fro?
Mae'r caeau rownd cefn Castell Caerdydd yn neis iawn. Mae Techniquest lawr y bae yn ddiddorol ac yn agos iawn i le fydd maes Steddfod yr Urdd.
Beth, yn eich barn chi, yw'r peth gorau am yr Urdd?
Mae'n dod 芒 phlant Cymru at ei gilydd, yn dangos Cymru a'r Gymraeg iddyn nhw mewn ffordd arbennig. Byddai Cymru yn lle llawer tlotach heb yr Urdd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2019