大象传媒

Fy stafell i: Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prifardd Gruffudd Eifion Owen wedi cael ei enwi yn Fardd Plant Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro.

Dyma gipolwg ar yr ystafell ble mae'n gwneud rhan helaeth o'i farddoni, gan gynnwys rhannau o'i awdl fuddugol, Porth, a enillodd y Gadair iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

(Cyhoeddwyd yr oriel yma gyntaf ym mis Medi 2018.)

Dwi weithiau'n gweithio wrth y ddesg, ond weithiau'n eistedd ar y soffa. Fe golles i ddefnydd o'r ddesg 'ma am gyfnod pan cafodd Dyfed, fy mab bach, ei eni. Roedd ei stwff o ymhob man, ond dwi am drio ei hawlio yn 么l r诺an!

Mae'r Gadair yn ffitio yn dda rhwng y piano a'r ddesg. Mae ngwraig i, Gwennan, yn gallu chwarae'r piano ond byth yn gwneud, a dwi'n anobeithiol am chwarae ond yn trio! Un o'r ffefrynnau ar hyn o bryd ydy Ethiopia Newydd gan Jarman, dwi'n ffan mawr ohono.

O'n i'n falch iawn ei bod hi'n gadair fodern a bod lle braf i eistedd arni. Gwelais hi'n cael ei dadorchuddio am y tro cynta' ar y teledu, ar yr un diwrnod ag o'n i 'di cael galwad ff么n gan yr Eisteddfod i ddweud fy mod wedi ei hennill. Roedd hwnnw'n ddiwrnod cyffrous.

Ar dop y pentwr yma o lyfrau ar y ddesg, mae cyfrol o farddoniaeth fy nhaid, y diweddar John Rowlands. Dwi'n troi at Olwynion Aflonydd bob hyn a hyn. Roedd yn fardd gwlad o Ben Ll欧n, yn cael ei adnabod fel Bardd y Lori Laeth. Bu farw ymhell cyn i fi gael fy ngeni, ac er bod ein bywydau ni mor wahanol - casglwr llaeth rownd ffermydd Ll欧n oedd ei waith - rydyn ni'n cael ein cysylltu yn y cerddi.

Mae nofel gynta' Gwennan yn y pentwr hefyd a llyfr Smot, un Dyfed bach!

Mae llyfrau'n bwysig iawn, ond dwi hefyd yn treulio lot o amser yn gwylio rhaglenni Netflix ar y ff么n... fel sy'n cael ei godi yn yr awdl.

Dwi'n lwcus iawn i gael byw efo bardd ac awdur, mae Gwennan yn darllen fy ngwaith i ac yn rhoi cyngor. 'Dan ni yn yr un t卯m Talwrn hefyd, Y Ffoaduriaid.

Dwi'n olygydd stori ar Pobol y Cwm, a dwi'n gweithio lot ar sgriptiau'r gyfres yn y stafell hon. Mae 'na sgriptiau ar eu hanner a llyfrau nodiadau gyda thameidiau o'r awdl ar y ddesg. Mae Pobol y Cwm yn cymryd lot o le yn fy mhen, dwi'n adnabod cymeriadau'r gyfres yn well na aelodau fy nheulu a ffrindiau!

Beth maen nhw'n ei fwyta, beth yw eu cyflog... dwi'n cario'r holl wybodaeth yma am bobl - sydd ddim yn bodoli - o gwmpas gyda fi. Mae'n swydd ddiddorol a chreadigol a dydi hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod tri ohonon ni a enillodd brif wobrau'r Eisteddfod eleni yn gweithio ar y gyfres.

Ro'n i'n lwcus i ennill dwy st么l Stomp yn Eisteddfod Caerdydd eleni, yn ogystal 芒'r Gadair. Si么n Tomos Owen wnaeth ddylunio un Stomp T欧 Gwerin (ar y dde) a chafodd st么l y Siwper Stomp ei dylunio gan Swci [Mared Lenny]. Dwi a Gwennan yn ffans mawr o'i gwaith hi fel artist a cherddor, ond pan enillais i hon do'n i ddim yn si诺r a oedd y t欧 yn ddigon c诺l i st么l mor ffynci!

Enillais i'r st么l yma mewn stomp a drefnwyd yng Nghaerdydd i godi arian i'r brifwyl. Mae wedi cael ei dyrchafu neu ei iselhau - pa bynnag ffordd 'da chi'n edrych arni - fel bwrdd i ddal coffi.

Ges i cymaint o lythyron a chardiau o longyfarch ar 么l ennill y Gadair ac mae detholiad ohonyn nhw yn dal i fyny yn y stafell. Un llythyr ges i oedd gan weddw y dramodydd Wil Sam. Fe wnes i astudio gwaith Wil Sam ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac oedd hi'n hyfryd cael y llythyr gan Dora.

Dwi 'di pori lot yn y cyfansoddiadau pan o'n i'n sgrifennu'r awdl, yn enwedig rhai y blynyddoedd diweddar i ddwyn syniadau!

Mae Dyfed y mab ychydig dros flwydd oed, ac fe gymerais i gyfnod o'r gwaith i edrych ar ei 么l. Nerys, cyd-weithiwr i mi, wnaeth y cerdyn Siwperdad pan ddechreues i ar gyfnod o dadolaeth!

Mae'r casgliad yma o gardiau a lluniau yn bwysig iawn i mi.

Yn y canol, mae 'na lun o ganolfan ysgrifennu T欧 Newydd. Cerdyn o longyfarch ydy hwnna, ond mae'r lle yn golygu llawer i mi a Gwennan. Dyna lle wnaethon ni gyfarfod a fan'na wnaethon ni ddywedd茂o hefyd.

Mae hon yn stafell aml-bwrpas, yn enwedig ers i Dyfed ddod i'r byd. Am gyfnod wrth i dyddiad cau cystadleuaeth y Gadair agosau, ro'n i'n codi'n gynnar cyn Gwennan a Dyfed ac yn dod lawr i'r stafell yma i weithio ar yr awdl.

Hefyd o ddiddordeb: