大象传媒

5 peth rydyn ni wedi ei ddysgu o adroddiad yr M4

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y daith ddyddiol i'r gwaith ar yr M4

Roedd ffordd liniaru'r M4 yn un o gynlluniau ffordd fwyaf Prydain, tan i Mark Drakeford roi stop arno ddydd Mawrth.

Fe wnaeth hynny er gwaethaf casgliad archwilydd cynllunio.

Wedi treulio misoedd yn darllen a gwrando ar dystiolaeth mewn ymchwiliad cyhoeddus, dywedodd Bill Wadrup bod 'na "achos cryf" i adeiladu'r ffordd ger Casnewydd.

Dyma bum peth ddysgon ni o'i adroddiad...

1. Roedd dwsinau o gynlluniau eraill

Beth am gladdu'r ffordd dan ddaear, drwy greu twnnel dan Wastadeddau Gwent?

Byddai ond yn costio 拢10bn.

Na?

Doedd Mr Wadrup ddim yn meddwl ei fod e'n syniad da chwaith.

Dyma un o 28 cynllun amgen gafodd eu cynnig i'r ymchwiliad.

Doedd yr un ohonyn nhw, ym marn yr archwilydd, gystal 芒'r syniad gwreiddiol - traffordd 14-milltir o hyd oedd yn cael ei adnabod fel y llwybr du.

Roedd rhai o'r syniadau eraill yn argymell fersiwn o'r llwybr glas ar hyd heolydd yn ne'r ddinas.

Ond byddai hynny wedi golygu adeiladu yn agos at lawer o dai, ac fe ddywedodd Mr Wadrup bod yna "anfanteision difrifol" yn gysylltiedig 芒'r llwybr glas.

2. Mae traffig yn debygol o gynyddu

Mae 'na gynlluniau uchelgeisiol eraill i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a chymoedd y de.

Gobaith rhai o'r gwrthwynebwyr i'r ffordd liniaru yw y bydd hynny'n lleihau'r pwysau ar yr M4.

Ond petai'r holl welliannau posibl, gan gynnwys , yn ymddangos dros nos, byddai'r nifer o geir ar yr heol wedi dychwelyd i'r lefel presennol o fewn tair blynedd.

Fodd bynnag, "yn y byd go iawn" ni fydd y pethau yma ar gael am flynyddoedd, meddai Mr Wadrup. Ac yn y cyfamser bydd y defnydd o'r draffordd yn cynyddu'n sylweddol.

Rhwng 2011 a 2016, fe gododd y nifer o gerbyd ar y ffyrdd o amgylch Casnewydd 12.3%.

3. Roedd y cynllun yn cynnig 'gwerth am arian'

Penderfynodd cabinet y llywodraeth ym mis Ebrill nad oedd yr arian ar gael i adeiladu'r ffordd.

Nid oedd modd i Mr Wadrup edrych ar goffrau'r llywodraeth, ond dywedodd bod y ffordd liniaru yn cynnig gwerth am arian.

Am bob punt a fyddai wedi cael ei wario arni, byddai'r genedl wedi elwa o 拢1.56, meddai.

Ond dyw hynny ddim yn cyfri'r "niwed" i'r economi o'r "nifer anarferol o uchel o ddigwyddiadau sy'n arwain at oedi" ar yr M4 y naill ochr o Dwneli Bryn-glas.

Ffynhonnell y llun, Lewis Clarke/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Twneli Bryn-glas yn hunllef i nifer o deithwyr

4. 'Gallai'r ffordd wella Gwastadeddau Gwent yn y pendraw'

Maen nhw'n dweud taw Amazon Cymru yw hwn. Nid jwngl yw e, ond gwlypdiroedd ar yr arfordir sy'n cynnwys nifer o gynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt.

Hyd yn oed petai'r arian ar gael i adeiladu'r ffordd, dywedodd Mr Drakeford na fyddai wedi bwrw 'mlaen oherwydd yr effaith ar y gwastadeddau.

Ond "nid oes llawer o dystiolaeth yn y cyflwyniad i gyfiawnhau'r pryderon a godwyd", oedd barn Mr Wadrup.

Byddai 2% o'r gwastadeddau wedi cael ei effeithio gan y draffordd newydd, meddai.

Ond fe ddywedodd hefyd bod mesurau'r llywodraeth i leihau'r niwed yn golygu byddai'r gwastadeddau yn fwy o faint ac mewn cyflwr gwell yn ecolegol yn y pendraw.

Ffynhonnell y llun, Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gwastadeddau Gwent yn cwmpasu ardal 163 cilometr sgw芒r yn ne Cymru

5. 'Byddai'r ffordd newydd wedi bod yn well i'r amgylchedd'

Ar y diwrnod penderfynodd cabinet y llywodraeth yn breifat na allen nhw fforddio'r M4 newydd - 29 Ebrill - dywedodd y llywodraeth yn gyhoeddus ein bod ni'n byw mewn 'argyfwng hinsawdd'.

Efallai eich bod o'r farn y byddai traffordd newydd yn ychwanegu at yr allyriadau carbon sy'n cyfrannu at newid hinsawdd.

Ond cafodd Mr Wadrup ei berswadio y byddai heol fyrrach, gyda llai o dagfeydd, yn lleihau allyriadau carbon.

Ar 么l pwyso a mesur, dywedodd "ni ellir dadlau nad oes gan y cynllun fanteision amgylcheddol sylweddol na manteision economaidd sylweddol ar draws de Cymru".