'Llywodraeth Cymru ddim wedi taclo gwastraff plastig'
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried gwahardd cadachau gwlyb (wet wipes) ac ariannu llawer mwy o ymchwil i ficroblastigau yn ein hafonydd, yn 么l adroddiad newydd gan Aelodau Cynulliad.
Mae ACau hefyd yn cyhuddo gweinidogion o beidio mynd i'r afael 芒 difrifoldeb y broblem.
Maen nhw'n galw am dargedau "uchelgeisiol" i daclo gwastraff plastig, tebyg i dargedau lleihau allyriadau carbon.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn gweithredu nifer o'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad.
Yn 么l D诺r Cymru mae cadachau na sy'n fioddiraddadwy yn blocio 2,000 o bibau carthion yng Nghymru bob mis.
Yn dilyn yr ymchwiliad i blastig, dywed Pwyllgor Newid Hinsawdd y Cynulliad eu bod yn "siomedig" gyda'r hyn mae gweinidogion wedi'i wneud hyd yn hyn.
Maen nhw'n galw ar weinidogion i sefydlu a gweithredu "strategaeth gynhwysfawr ac uchelgeisiol" dros gyfnod o 10 mlynedd.
"Mae angen i ni arwain y ffordd, yn hytrach nac aros i eraill wneud", medd cadeirydd y pwyllgor, AC Llafur Mike Hedges.
"Mae'r cyhoedd yn gefnogol, ac felly fe ddylen ni ddefnyddio eu hegni a'u brwdfrydedd wrth ddyfeisio polis茂au uchelgeisiol a trawsnewidiol."
Dyw deunyddiau plastig ddim yn pydru ac yn diflannu'n hawdd - ond yn hytrach maent yn torri'n ddarnau m芒n dros gannoedd o flynyddoedd - yn ficroblastigion neu'n nanoblastigion.
Maen nhw'n cael eu canfod mewn pridd, afonydd, a'r m么r - lle maen nhw'n cael eu llyncu gan organebau ar hyd y gadwyn fwyd.
Mae Mair Tomos yn rhedeg siop lysiau a ffrwythau, Blodyn Tatws, ers dwy flynedd.
O'r cychwyn cyntaf, mae'r siop wedi bod yn fusnes di-blastig. Mae nifer o fusnesau eraill yn nhref Machynlleth hefyd wedi ymrwymo i gynllun di-blastig.
Dywedodd Ms Tomos: "Mae na gymaint o blastig yn y byd - dyma fy ffordd fach i o ddangos bod dim angen cymaint o blastig. Mae'r cynnyrch yn cadw'n dda iawn am dair wythnos ac maen dal i fod yn berffaith iawn. Mae'n dangos nad oes angen plastig i gadw pethau'n ffres.
"Mae angen newid polisi, a chymryd y peth mwy o ddifrif.
"Mae na fodd defnyddio deddfwriaethau gwahanol i gyflawni hyn.
"Mae na ffordd o ddefnyddio deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i gyflawni rhai elfennau amgylcheddol.
"Er mwyn i blant fod yn iach yn y dyfodol, mae'n rhaid i ni arbed pethau rhag mynd yn waeth."
'Mwy o blastig na chreaduriaid'
Dywedodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y Cynulliad ymhellach eu bod nhw wedi'u syfrdanu gan ymchwil newydd Prifysgol Caerdydd, sy'n dangos bod hanner pryfed afon Taf wedi llyncu plastig.
Eglurodd yr Athro Steve Ormerod, oedd yn arwain y gwaith, y gall "dwysedd gronynnau plastig ar wely'r afon fod gymaint 芒 0.5 miliwn o ronynnau fesul metr sgw芒r".
"Mae hynny'n fwy o blastig na sydd 'na o greaduriaid ar wely'r afon," meddai.
Beth mae'r adroddiad yn gynnig?
Edrych ar y potensial o greu deddfwriaeth yng Nghymru i leihau gwastraff plastig a llygredd - model tebyg i'r un lleihau allyriadau carbon;
Cynnal ymchwil newydd ar ficro-blastigau a nano-blastigau yn afonydd a moroedd Cymru;
Lleihau'r nifer o ddefnydd pysgota sy'n cael ei ddiosg yn y m么r, gan ddefnyddio dull geodagio a thechnoleg solar i'w olrhain;
Cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer poteli a chaniau diodydd yn ogystal 芒 chyflwyno rheolau sy'n gorfodi cynhyrchwyr i ysgwyddo y gost o ddelio 芒'u cynnyrch wedi iddo gael ei ddefnyddio;
Cyflwyno treth pecynnu plastig, fel cymhelliant ariannol i ddefnyddio plastigau wedi'u hailgylchu yn lle rhai newydd.
Nododd yr adroddiad y dylid canmol Llywodraeth Cymru am eu cyfraddau ailgylchu uchel ac am fod y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tollau ar fagiau plastig untro.
Serch hynny, mae ACau yn cyhuddo gweinidogion o beidio mynd i'r afael 芒 difrifoldeb y broblem.
'Ailgylchu yn gam olaf'
Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod lleihau ac ailddefnyddio cynnyrch yn hanfodol, gydag ailgylchu yn cael ei ddefnyddio fel y cam olaf.
Mae hefyd yn cyfeirio at y ffaith nad yw cynllun dychwelyd blaendal wedi ei gyflwyno yng Nghymru eto, er bod 'na gyllid wedi cael ei ddosbarthu ar ei gyfer.
Mae ymchwil, meddid, wedi cael ei gomisiynu ar gyfer y cynllun i osod cyfrifoldeb ariannol ar gynhyrchwyr, ond does 'na ddim awgrym hyd yma y bydd yn cael ei gyflwyno.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "bod nifer o'r argymhellion eisoes yn digwydd gan gynnwys gwaith ar gynllun blaendal a gwahardd y defnydd o rai eitemau am untro yn unig.
"Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer taclo gwastraff gan gynnwys cynyddu ailgylchu ac ry'n yn rhannu brwdfrydedd y cyhoedd i wneud mwy."