Newid hinsawdd i effeithio ar draeth yn Aber

Ffynhonnell y llun, Geograph

Disgrifiad o'r llun, Traeth Tanybwlch yn Aberystwyth

Bydd newid yn yr hinsawdd a lefel y m么r yn "debygol o ddod 芒 newidiadau" i draeth yng Ngheredigion, yn 么l y cyngor sir.

Mae'r cyngor yn adolygu sefydlogrwydd amddiffynfeydd m么r ar draeth Tanybwlch yn Aberystwyth.

Bydd t卯m cadwraeth yr awdurdod lleol yn cynnal digwyddiadau dros y ddeufis nesaf i drigolion ac ymwelwyr gael cyfle i rannu eu gwybodaeth o'r ardal.

Mae crib raean y traeth yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gyda'r llwybr arfordirol yn rhedeg ar hyd y top.