大象传媒

Angen mwy o wybodaeth am alopecia, medd mam 芒'r cyflwr

  • Cyhoeddwyd
Tanya HughesFfynhonnell y llun, Tanya Hughes

Mae mam o Wynedd a gymrodd 10 mlynedd i gyfaddef yn gyhoeddus ei bod yn colli ei gwallt yn dweud bod yna ddiffyg gwybodaeth am y cyflwr.

Mae Tanya Hughes, o Frongoch ger Y Bala, 芒 math o alopecia sy'n achosi moelni bylchog, ac mae bellach yn eillio ei phen neu'n gwisgo wig.

Mae alopecia, sy'n effeithio bron i 5,000 o bobl yng Nghymru, yn gallu taro dynion a merched o bob oed, ac mae rhai yn colli mwy o wallt nag eraill.

Dim ond un gr诺p cymorth sydd yng Nghymru.

Dechreuodd Tanya, sy'n 31 oed ac yn fam i dri, golli ei gwallt wedi cyfnod o straen 10 mlynedd yn 么l.

Dywedodd bod hi'n bryderus pan aeth at y meddyg "achos canser oedd y peth cynta' 'aru fi feddwl amdan".

"Pryd 'aru fo gychwyn oedd gen i ofn," meddai. "O'n i erioed wedi clywed am alopecia, o'dd gen i'm cliw be' oedd alopecia.

"Yr unig reswm o'n i meddwl bo' chi'n colli gwallt chi os oeddach chi'n s芒l."

Ffynhonnell y llun, Tanya Hughes

"Elli di gael alopecia lle 'da chi'n colli patches bach neu fatha pattern baldness lle mae o'n mynd o'r ffrynt ac yn 么l. Mae rhai pobl yn colli pob darn o'r gwallt ar corff nhw, a chael dim byd.

"Yr un dwi efo ydi Arieta sydd jyst yn patchy hair loss. Dwi wedi colli gwallt ar pen fi mewn patches, byth y cyfan gwbl, byth byth."

Mae Tanya yn dweud ei bod wedi colli hyd at "tua 90%" o'i gwallt a'i bod yn colli blew amrannau (eyelashes) un llygad.

"O'n i wastad yn conscious i 'neud yn si诺r fod patches fi 'di cyfro cyn mynd allan," meddai. "O'n i rili yn self-conscious amdana fo i gyd. Mi oedd o'n tynnu fi lawr fel person."

'Person gwell'

Roedd teulu Tanya yn gwybod am y cyflwr, ond mi guddiodd y sefyllfa am ddwy flynedd oddi wrth ei phartner.

Dim ond yn ddiweddar y dangosodd yr alopecia iddo ac fe wnaeth o ei hannog i eillio'r gwallt i gyd, gan ddweud wrthi ei bod yn "edrych yn ddel efo gwallt neu heb wallt".

"Pryd dwi'n gwisgo wig mae o'n d'eud 'why are you wearing a wig?' A mae o'n d'eud bod fi'n edrych yn well heb wallt.

"Dwi'n meddwl mae o 'di 'neud fi mewn i berson gwell na be' o'n i o'r blaen."

Ffynhonnell y llun, Tanya Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tanya Hughes yn gwisgo'i wig

Mae Tanya bellach yn trafod ei chyflwr yn agored ar wefannau cymdeithasol gan obeithio bydd yn helpu pobl eraill yn yr un sefyllfa.

"Ma'n neis cael gweld mai ddim jest fi sydd hefo alopecia. A ma'n neis gweld bod fi'n siarad allan [yn] helpu pobl erill.

"O'dd y doctor ddim yn gallu d'eud lot wrtha fi amdan alopecia. Dwi 'di ffeindio petha' allan wedyn ar y we, ond... ma'n anodd i rywun allu rhoi cymorth achos does 'na ddim atebion.

"Mae yna lot o bethau sy'n gallu achosi'r alopecia, so does 'na'm ateb sy'n 'run fath i bawb."

Yn 么l yr elusen Alopecia UK, mae ffigyrau diweddar yn awgrymu mai ychydig o dan 5,000 o bobl yng Nghymru sydd efo'r cyflwr.

Yng Nghaerdydd y mae'r unig gr诺p cymorth yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "unrhyw fath o foelni yn ofidus" a bod meddygon teulu'n asesu amgylchiadau unigolion, gan gynnig meddyginiaeth neu wasanaethau cefnogol priodol.

Ychwanegodd: "Mae GIG Cymru'n darparu wigiau i gleifion sydd wedi dioddef moelni cronig trwy gyflyrau fel alopesia, trawma neu driniaethau fel cemotherapi."