大象传媒

Rhybudd 'argyfwng' gwasanaethau plant wedi gorwario 拢20m

  • Cyhoeddwyd
Plant yn dringo yn Llangrannog
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwriad cynllun 'Pic-Yp' yw cynnig cymorth ymarferol i blant cyn i'r sefyllfa waethygu

Mae cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol plant mewn "argyfwng" yn 么l y corff sy'n cynrychioli cynghorau Cymru.

Bu gorwario ar y gyllideb gwasanaethau cymdeithasol gan 15 awdurdod yn 2017/18, cyfanswm o dros 拢20m.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fod angen i Lywodraeth Cymru "fynd i'r afael 芒'r broblem ar frys".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes wedi ymateb i alwadau gan awdurdodau lleol am fwy o gyllid lle mae angen.

Gofynnodd Newyddion 9 i bob cyngor yng Nghymru os oeddynt wedi gwario dros eu cyllideb gwasanaethau cymdeithasol yn 2017/18.

Cafwyd ymateb gan 19 o gynghorau, gyda 15 yn cadarnhau eu bod wedi mynd tu hwnt i'w cyllidebau.

O'r rheiny cafwyd ymateb, Cyngor Abertawe oedd wedi gorwario fwyaf - o 拢4.7m.

Roedd Cyngor Powys wedi gorwario o 拢4.4m a Chyngor Caerdydd o 拢2.7m.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n sialens fawr arnom ni fel cynghorau," meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins

Wrth siarad ar ran CLlLC, dywedodd y Cynghorydd Geraint Hopkins fod y "sefyllfa'n un anodd iawn ar hyn o bryd".

"Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd o 15% yn nifer y plant mewn gofal.

"Mae yna fater ariannu difrifol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n falch o ddweud eu bod nhw, fynd i'r afael 芒 hyn ar frys."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Sera Llywelyn mai bwriad y cynllun yw helpu plant i fod yn fwy "gwydn" ac "ymdopi 芒'r heriau... mewn bywyd pob dydd"

Yn dilyn dyfarnu grant gan y Swyddfa Gartref, mae Cyngor Ceredigion wedi buddsoddi mewn rhaglen ymyrraeth gynnar i geisio arbed arian.

Mae prosiect Pic Yp wedi bod yn targedu plant rhwng 10 a 12 oed a allai fod yn fregus neu'n wynebu heriau yn eu bywydau.

Dywedodd Sera Llywelyn, rheolwr t卯m troseddwyr ifanc Ceredigion, mai cynllun "ataliol" sydd yma.

"Y gobaith yw ei fod arian yn cael ei wario'n dda ar y dechrau, ac na fydd argyfwng brys ym mywydau'r plant.

"Yr hyn yr ydym yn ei wneud yw gwario arian nawr gan fuddsoddi yn nyfodol y plant," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "gweithio'n galed i gynnig y taliadau gorau posibl i lywodraeth leol".

Ychwanegodd eu bod wedi "cynnig cyllid ychwanegol yn 2019/20 ar gyfer meysydd penodol lle mae awdurdodau lleol yn wynebu'r pwysau mwyaf."