大象传媒

Cyflwyno Cadair a Choron Eisteddfod Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
coronFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Angela Evans o Gaernarfon sydd wedi dylunio'r Goron eleni

Mae cadair a choron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi cael eu dadorchuddio mewn seremoni ger Llanrwst.

Y gemydd Angela Evans o Gaernarfon ddyluniodd y Goron, tra mai Gwenan H芒f Jones o Bentrefoelas sydd wedi creu'r Gadair.

Yn y seremoni dywedodd y darpar archdderwydd, Myrddin ap Dafydd bod y gwrthrychau yn "codi ysbryd" ac yn adlewyrchu egwyddorion am ddiwylliant a chymuned.

Yn y cyfamser, dywedodd cadeirydd pwyllgor gwaith y Brifwyl fod y trefniadau ar gyfer y maes yn Llanrwst yn "mynd yn arbennig o dda".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Angela Evans bod creu'r Goron yn "binacl gyrfa" iddi

Dywedodd Ms Evans bod llunio coron Eisteddfod wedi bod yn "freuddwyd" iddi.

"Mae o bendant yn binacl gyrfa i fi," meddai.

"Nes i sgwennu traethawd hir yn y coleg am goronau Eisteddfod, a chyfweld 芒 sawl un oedd wedi creu coronau a gweld sut oedden nhw 'di mynd ati.

"Fedra' i ddim coelio bron 'mod i'n cael cyflwyno coron fy hun!"

Mae dyluniad Ms Evans yn cynnwys nifer o drionglau sy'n adlewyrchu tai - sef maes noddwyr y goron, Gr诺p Cynefin.

'Braint'

Undeb Amaethwyr Cymru ydy noddwyr y Gadair, ac mae ei dyluniad hithau'n cyfeirio at fywyd gwledig yngh欧d 芒 llwybr afon Conwy.

"Fi 'di'r ail ferch i ddylunio cadair, ond y gyntaf i ddylunio a chreu cadair," meddai Ms Jones, sy'n saer ym Maerdy ger Corwen.

"Mae'n fraint ac anrhydedd cael gwneud hynny ym mro fy mebyd, Sir Conwy."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dyluniad y Gadair yn cyfeirio at fywyd gwledig yngh欧d 芒 llwybr afon Conwy

Cyflwynodd y Prifardd Myrddin ap Dafydd, y darpar archdderwydd, bod y gwrthrychau'n adlewyrchu egwyddorion eu noddwyr.

"Mae'r ddwy wirioneddol wedi dod ag egwyddorion y noddwyr a'r pwyslais ar ddiwylliant a chymuned a th欧 ac aelwyd - mae'r cyfan wedi ei blethu yn dynn iawn iawn ac yn gelfydd iawn," meddai.

"Mae'n ddyrchafol iawn ac mae rhywbeth yn codi ysbryd yn y ddau waith."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Myrddin ap Dafydd gyflwyno cerdd i Gwenan Jones a'r Gadair

Derbyniodd cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Sir Conwy, Trystan Lewis y gwrthrychau ar ran y brifwyl, ac mae'n dweud bod "bwrlwm" yn lleol bellach wedi misoedd o ansicrwydd am leoliad y maes, yn dilyn llifogydd ym mis Mawrth.

"Mae'r trefniadau yn mynd yn arbennig o dda," meddai.

"Wrth gwrs, roedd gwaith dal i fyny ar 么l colli sawl mis."

Gan gyfeirio at law trwm y dyddiau diwethaf, ychwanegodd: "Gobeithio ei bod hi wedi glawio hynny feder hi fel bod y caeau yn sych erbyn dechrau mis Awst."