大象传媒

Adam Price a Stephen Kinnock yn cyfaddef defnydd cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
QT
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y panelwyr yn trafod ar raglen Question Time o Aberhonddu

Mae sawl gwleidydd wedi cyfaddef defnyddio cyffuriau pan yn ifanc, a hynny wrth ymddangos ar raglen Question Time y 大象传媒.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ac Aelod Seneddol Llafur, Stephen Kinnock, eu bod wedi cymryd cyffuriau.

Fe wnaeth cyn-ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Theresa Villiers, hefyd ddweud iddi drio canabis pan yn y brifysgol.

Roedd y panelwyr yn ymateb i gwestiwn yn dilyn cyfaddefiad Michael Gove, sy'n ymgeisio i arwain y Ceidwadwyr, iddo ddefnyddio coc锚n yn y gorffennol.

'Ddim am ddweud celwydd'

Ar y rhaglen, dywedodd Mr Price: "Fel dyn hoyw oedd yn mynd i glybiau nos yn y 1990au byddai'n ychydig o syndod os nad oeddwn i wedi cymryd cyffuriau.

"Dydw i ddim yn dweud mod i'n falch o hynny, ond dydw i ddim am ddweud celwydd amdano chwaith."

Ychwanegodd bod "15 miliwn o bobl yn y wlad hon wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon" a bod hynny'n arwydd bod "gwaharddiad wedi methu, yn y ffordd fwyaf anobeithiol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Stephen Kinnock ac Adam Price eu bod wedi cymryd cyffuriau pan yn iau

Dywedodd Mr Kinnock, aelod Llafur dros Aberafan, ei fod wedi ei fagu a chael ei addysg yng ngorllewin Llundain, mewn ardal "gymysg iawn, iawn".

"Cyn belled ag oeddwn i'n ei weld roedd tua hanner y rhai yna yn smygu canabis ac roeddwn i'n rhan o'r hanner hynny," meddai.

Ychwanegodd ei fod hefyd yn rhan o'r s卯n cerddoriaeth house yn y 1990au.

"Mae'r rhyfel yn erbyn cyffuriau'n cael ei golli... gan achosi niwed difrifol i gymdeithas, torcalon."

Dywedodd cyn-ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Ms Villiers, ei bod wedi defnyddio canabis ar dri achlysur yn y brifysgol, ond ei fod wedi ei gwneud hi'n s芒l.

"Felly wnes i ddim ei gyffwrdd eto a buaswn i ddim yn ei argymell i neb arall," meddai.

Er iddi ddweud ei bod hi'n "bragmataidd" tuag at bolisi cyffuriau, nid oedd am gefnogi cyfreithloni canabis oherwydd yr "effeithiau iechyd difrifol iawn".