大象传媒

Comisiynydd: Angen 拢1bn y flwyddyn i atal newid hinsawdd

  • Cyhoeddwyd
Lon seiclo
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r comisiynydd am weld 拢240m yn cael ei wario ar hwyluso trafnidiaeth gwyrdd - gan gynnwys cerdded a seiclo

Dylai bron i 拢1bn y flwyddyn gael ei glustnodi ar gyfer mesurau i atal newid hinsawdd gan Lywodraeth Cymru, yn 么l un o'u prif ymgynghorwyr.

Mae'r cyllid presennol ar gyfer lleihau allyriadau yn "bell o fod yn ddigonol", meddai Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe.

Fe allai'r arian ychwanegol gael ei ddefnyddio ar gyfer mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, inswleiddio tai, plannu coed a helpu cynlluniau ynni gwyrdd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cyhoeddi 100 o bolis茂au a chynigion i daclo newid hinsawdd.

Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths yr wythnos ddiwethaf y byddai'n newid y gyfraith i osod targed o ostwng allyriadau nwyon t欧 gwydr o 95% erbyn 2050, ar 么l datgan argyfwng hinsawdd ym mis Mai.

Dywedodd Ms Howe na allai feirniadu'r uchelgais, ond rhybuddiodd bod angen mwy o fanylder yngl欧n 芒 sut y byddai'n cael ei ariannu.

"Be' na allwn ni ei osgoi yw'r ffaith fod hyn yn mynd i olygu penderfyniadau gwario anodd iawn," meddai mewn cyfweliad 芒 大象传媒 Cymru.

"Gallwn ni ddim jyst siarad am y peth erbyn hyn - mae angen i ni ddechrau ariannu a gweithredu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sophie Howe am weld gwariant Llywodraeth Cymru ar atal newid hinsawdd yn 6% o'i chyllideb

Mae Ms Howe wedi lansio cynllun 10 pwynt ar gyfer gweinidogion, gan alw ar Lywodraeth Cymru i glustnodi mwy o'i chyllideb o 拢18bn ar gyfer lleihau allyriadau.

Ar hyn o bryd mae oddeutu 1% yn cael ei ddefnyddio ar gyfer datgarboneiddio - tua 拢200m yn 2019/20.

Mae Ms Howe am weld hynny'n cynyddu i 6% - neu 拢991m.

Mae hynny'n cyfateb 芒 chyngor diweddar Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU (CCC), wnaeth amcangyfrif bod angen 拢30bn o wariant cyhoeddus rhwng nawr a 2050 er mwyn cael gwared ar allyriadau nwyon t欧 gwydr o'r economi a'n ffordd o fyw.

Sut fyddai'r arian yn cael ei wario?

Trafnidiaeth - 拢240m yn y gyllideb nesa'

Mae trafnidiaeth yn cyfri' am 14% o allyriadau Cymru, gyda dros hanner hynny o geir petrol a diesel.

Byddai cynllun Ms Howe yn golygu gwario 拢240m ar ffyrdd gwyrddach o deithio - 拢60m ar isadeiledd cerdded a seiclo, a 拢150m ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae annog y defnydd o gerbydau trydan yn rhan o gynllun y comisiynydd

Mae hi'n dweud y dylai 拢30m fynd ar annog defnydd o gerbydau trydan - er y gallai hyn fod yn gymysgedd o arian cyhoeddus a buddsoddiad preifat.

Tai ac adeiladau - 拢330m yn y gyllideb nesa'

Daw 9% o allyriadau Cymru o adeiladau - yn enwedig o dai sydd heb eu hinswleiddio'n dda.

Mae'r cynllun yn dweud y dylai'r holl gartrefi sy'n cael eu hadeiladu yma fod yn rhai 'sero carbon' erbyn 2020.

Am y tair blynedd ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig 拢30m y flwyddyn i gefnogi cynlluniau tai amgen, ac mae Ms Howe am i hynny barhau.

Yr her fwyaf yw mynd i'r afael 芒 thai sy'n bodoli'n barod - a gosod mesurau yn eu lle i wella'u heffeithlonrwydd.

Dylai'r gwaith hynny ddechrau drwy flaenoriaethu pobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd, gan gostio oddeutu 拢1bn y flwyddyn - a'r llywodraeth yn cyfrannu 拢300m.

Ffermio a'r amgylchedd - 拢221m yn y gyllideb nesa'

Disgrifiad,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amddiffyn mawndiroedd, sy'n "storfa garbon hollbwysig" i Gymru

Mae edrych ar 么l yr amgylchedd yn allweddol o ran cyrraedd targedau allyriadau gan fod coed, planhigion a phridd yn medru amsugno a storio carbon deuocsid.

Dylid gwario 拢16m y flwyddyn ar "gynnydd radical yn nifer y coed" yng Nghymru, gyda'r adroddiad yn rhybuddio bod targedau plannu presennol yn cael eu methu.

Fe ddylid clustnodi 拢205m y flwyddyn hefyd ar gyfer mwy o ardaloedd gwyrdd a chynefinoedd i fywyd gwyllt mewn trefi, dinasoedd a'r holl ddatblygiadau adeiladu newydd.

Ar ben y cyllid newydd, mae'r comisiynydd yn galw am sicrhau bod y 拢300m o gymorthdaliadau sy'n cael eu rhoi i ffermwyr bob blwyddyn yn cefnogi arferion amaethu carbon isel yn y dyfodol.

Ynni adnewyddadwy - 拢200m yn y gyllideb nesa'

Disgrifiad,

'Safio'r amgylchedd yn safio arian' i'r ffermwr Llyr Jones o Sir Ddinbych

Mae'r cynllun yn ailadrodd galwadau i Gymru dderbyn 100% o'i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Fyddai hynny'n golygu oddeutu 拢30bn o fuddsoddiad dros gyfnod o 15 mlynedd, gyda'r llywodraeth, sector breifat a ffynonellau eraill yn rhannu'r gost.

Y gred ydy y byddai'r gwaith yn ddigon i gefnogi 20,150 o swyddi y flwyddyn yng Nghymru.

Mae cynllun Ms Howe yn rhagweld y dylai 10% neu 拢200m o'r arian ddod o'r pwrs cyhoeddus, gan alw ar Lywodraeth Cymru i "amlinellu ar frys sut y gellid sicrhau'r buddsoddiad yn ei gyfanrwydd".

Pa rannau o'r gyllideb fyddai'n rhaid eu torri?

Doedd Ms Howe ddim am ddweud pa ardaloedd fyddai'n gweld toriadau, gan fynnu bod ei chynllun hi'n "ddechreubwynt ar gyfer y fath yna o drafodaethau".

Er hynny, dywedodd y byddai gwario mwy ar newid hinsawdd yn arwain at fuddion hirdymor fel creu swyddi ac arbedion i'r gwasanaeth iechyd drwy aer glanach ac annog pobl allan o'u ceir.

Ydy Cymru'n llwyddo i dorri allyriadau?

Mae'r CCC wedi rhybuddio ar sawl achlysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf bod Cymru'n debygol o fethu nod i leihau allyriadau 40% erbyn 2020.

Mae'r ffigyrau ar gyfer 2017 yn dangos cwymp o 25%, o'i gymharu 芒 1990.

Llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru addasu ei thargedau - yn dilyn cyngor newydd gan y CCC.

Nawr mae'n anelu at doriad o 27% erbyn 2020, gan gynyddu at 95% erbyn 2050.

Dywedodd Ms Howe fod Cymru "ar ei h么l hi yn sylweddol o'i gymharu 芒 gwledydd eraill ar draws y byd, ac yn wir yn y DU, mewn nifer o feysydd allweddol megis buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, ynni ac ail-wyrddio ein tir."

Beth oedd ymateb Llywodraeth Cymru?

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "amlwg ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd" a bod angen "cynyddu ein huchelgais yn gyson".

Ychwanegodd llefarydd: "Rydyn wedi cyhoeddi proffiliau allyriadau manwl a 100 o bolis茂au a chynigion i daclo newid hinsawdd yn ein cynllun carbon isel."

Croesawodd y llywodraeth y cyfraniad gan y comisiynydd, gan annog cyrff cyhoeddus a chymunedau i "ystyried sut i gyfrannu at daclo newid hinsawdd".