大象传媒

Problem wrth drydaneiddio'r rheilffyrdd yn ne Cymru

  • Cyhoeddwyd
Twnnel HafrenFfynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Network Rail wedi treulio tair blynedd a gwario 拢20m yn ceisio paratoi'r twnnel ar gyfer trenau trydan

Mae amheuaeth a fydd prosiect gwerth 拢2.8bn i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng de Cymru a Llundain yn digwydd am fod peirianwyr yn cael trafferthion yn Nhwnnel Hafren.

Yr offer sy'n cael ei ddefnyddio i drydaneiddio'r trac yn y twnnel pedair milltir o hyd sy'n methu oherwydd yr amodau hallt o dan F么r Hafren.

Mae Network Rail wedi treulio tair blynedd a gwario tua 拢20m yn ceisio paratoi'r twnnel ar gyfer trenau trydan.

Mae arbenigwyr ar drydaneiddio bellach wedi cael eu cyflogi mewn ymgais i ddatrys y broblem.

Dywedodd yr Adran Trafnidiaeth eu bod yn "ymwybodol o broblem gyda'r gwaith yn Nhwnnel Hafren" a bod Network Rail yn "cynnal ymchwiliadau i ddatrys hyn cyn gynted 芒 phosib".

'Heriol iawn'

Mae Network Rail wedi cydnabod bod trydaneiddio'r twnnel yn "heriol iawn" ond maen nhw'n mynnu na fydd hynny'n cael effaith ar deithiau am fod y trenau newydd sy'n gwasanaethu ar y llwybr yn gallu rhedeg ar drydan neu ddisel.

Y bwriad yn wreiddiol oedd y byddai'r llinell wedi'i thrydaneiddio erbyn eleni ond dywedodd Network Rail y llynedd nad oedden nhw'n gallu rhoi dyddiad pendant ar gyfer cwblhau'r gwaith.

Dyma'r ergyd ddiweddaraf i'r prosiect i drydaneiddio rheilffyrdd de Cymru, yn dilyn oedi, problemau ar gyfer trenau newydd a'r penderfyniad i beidio trydaneiddio hyd at Abertawe.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r amodau hallt yn y twnnel yn rhydu'r offer sy'n dal y ceblau yn eu lle o fewn misoedd

Fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog David Cameron gyhoeddi yn 2012 y byddai rheilffordd de Cymru'n cael ei thrydaneiddio, ac fe gafodd y twnnel ei gau am chwe wythnos yn 2016 i ddechrau'r prosiect.

Ond y llynedd fe wnaeth cyn-weinidog trafnidiaeth y DU, Jo Johnson gyfaddef bod yr offer trydaneiddio yn y twnnel wedi dechrau dirywio.

Mae'r offer sy'n dal y ceblau yn eu lle i fod i bara am 25 mlynedd, ond mae'r d诺r halen sydd o amgylch y twnnel yn eu rhydu o fewn misoedd, sy'n golygu nad oes modd trydaneiddio'n ddiogel.

Mae Network Rail wedi cyflogi arbenigwyr o gwmni o'r Swistir mewn ymdrech i ddod o hyd i ddatrysiad, ond mae'r ymdrechion wedi bod yn aflwyddiannus hyd yn hyn.

'Ar amser'

"Bydd y trenau newydd rhwng yn rhedeg ar ddisel a thrydan," meddai Network Rail mewn datganiad.

"Fe fydd modd eu gweithredu trwy'r twnnel ac rydyn ni ar amser i gyflwyno'r amserlen newydd yn Rhagfyr 2019 - canlyniad moderneiddio a thrydaneiddio dros y blynyddoedd diwethaf.

"Bydd yr amserlen yn dod 芒 buddiannau enfawr i deithwyr yn ne Cymru, gyda theithiau hyd at 14 munud yn gynt i Lundain a llawer mwy o lefydd ar y trenau."