大象传媒

Galw ar Gyngor Gwynedd i fuddsoddi yn Ysgol Tryfan

  • Cyhoeddwyd
Gwyn Tudur

Wrth i Ysgol Tryfan ym Mangor nodi 40 mlynedd ers ei sefydlu, mae 'na alwad ar Gyngor Gwynedd i fuddsoddi arian i wella'r ysgol.

Sefydlwyd yr ysgol wedi brwydr i agor ysgol uwchradd Gymraeg ym Mangor - ac erbyn hyn mae 'na dros 400 o ddisgyblion yno.

Mae'r pennaeth yn dweud bod angen buddsoddiad i adnewyddu'r adeiladau presennol.

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi "buddsoddi swm sylweddol i sicrhau adeiladau addas ar gyfer ysgolion y sir".

Wrth ddathlu penblwydd yr ysgol, dywedodd y pennaeth Gwyn Tudur eu bod nhw'n hyderus am y dyfodol, ond bod diffyg buddsoddiad yn broblem.

"Wrth i ni gerdded rownd yr ysgol, da chi'n gweld mae'r adeiladau yma yn rhai hen.

"Ag efo'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, lle mae buddsoddiad gwerth chweil yn ysgolion cynradd yma ym Mangor - mi fase'n braf iawn gweld Tryfan yn gweld 'chydig o'r arian."

Beth yw Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif?

  • Cynllun buddsoddi gwerth 拢1.4b rhwng Llywodraeth Cymru a holl awdurdodau lleol Cymru ar gyfer ysgolion a cholegau Cymru.

  • Nod yr arian yw targedu amryw o heriau megis gwella adeiladau sydd mewn cyflwr gwael, mynd i'r afael ar ddiffyg capasati, a delio a'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

  • Mae'r cynllun newydd orffen eu cyfnod buddsoddi cyntaf (Band A), cyn iddyn nhw symud ymlaen i Band B.

Yn 么l Mr Tudur, "mae'n rhaid buddsoddi yn Ysgol Tryfan er mwyn sicrhau addysg Gymraeg uwchradd ym Mangor".

Wrth ymateb i'r alwad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod nhw wedi buddsoddi yn ysgolion y sir "trwy brosiectau'r Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn ogystal 芒 rhaglen o waith cynnal a chadw ychwanegol yn ein hysgolion. "

"Mae hyn yn cynnwys 拢12m o arian ychwanegol Band A i'r rhaglen ar gyfer Gwynedd, er mwyn sicrhau ein gallu i wella'r amgylchedd dysgu yn y sector cynradd ym Mangor.

Ychwanegodd y llefarydd fod y cyngor wedi adnabod cynllun tebyg a fyddai'n "mynd i'r afael ag anghenion" addysg uwchradd ym Mangor - ond bod rhagor o waith i'w wneud cyn iddyn nhw gael cadarnhad o'r cyllid fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.