大象传媒

Alun Cairns: 'Johnson am amddiffyn y Deyrnas Gyfunol'

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai'r uned newydd yn "sicrhau bod lleisiau pob rhanbarth yn cael eu clywed", yn 么l Mr Cairns

Fe fyddai Boris Johnson yn sefydlu "uned" arbennig i sicrhau bod pob rhan o'r Deyrnas Gyfunol yn cael ei wasanaethu'n gywir os daw'n Brif Weinidog, yn 么l Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Alun Cairns wrth 大象传媒 Cymru y byddai t卯m o ymgynghorwyr yn edrych ar sut mae materion dyddiol yn effeithio ar y Deyrnas Gyfunol.

Mae Mr Johnson yn herio'r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt mewn ras i fod yn brif weinidog ac yn arweinydd ar y Blaid Geidwadol.

Ychwanegodd Mr Cairns, sydd eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i Mr Johnson, y byddai'r newidiadau yn sicrhau bod lleisiau pob rhanbarth yn cael eu clywed.

"Mae hyn yn dangos ei fod yn derbyn bod sensitifrwydd ymhob rhan o'r wlad yn ogystal 芒 bod 芒'r weledigaeth i sicrhau Brexit," meddai.

Mae Mr Johnson hefyd wedi dweud y byddai'n ychwanegu "Gweinidog y Deyrnas Gyfunol" i deitl y swydd pe bai'n cael ei ddewis fel arweinydd.